
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2013 sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
2 
Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a) yn lle “£57.16” rhodder “£57.72”; a
(b)  yn lle “£20.70” rhodder “£20.90”.
3 
Mae rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£54.20” rhodder “£54.70”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£14.00” rhodder “£14.10”.
4 

(1) Mae Atodlenni 1 i 3 o'r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau ac wynebwerthoedd talebau — cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) o'r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod:

(1) Swm blaenorol (2) Swm newydd
£37.10 £37.50
£56.40 £57.00
£82.60 £83.40
£186.50 £188.40
£64.20 £64.80
£81.60 £82.40
£105.80 £106.90
£205.10 £207.20
£191.00 £192.90
£54.20 £54.70
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.10” rhodder “£12.20”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b) yn lle “£14.60” rhodder “£14.70”;
(c) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£61.20”, “£54.20” a “£29.30” rhodder “£61.80”, “£54.75” a “£29.60” yn eu trefn;
(d) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£61.20” rhodder “£61.80”;
(e) ym mharagraff 2(a), yn lle “£14.00” rhodder “£14.10”; ac
(f) ym mharagraff 2(b), yn lle “£35.50” rhodder “£35.90”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
5 
Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2013 neu ar ôl hynny y mae'r symiau a amnewidir gan reoliadau 3 a 4 yn gymwys.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2013
YR ATODLEN
Rheoliad 4(4)
“
SCHEDULE 3
Regulation 19(2) and (3)


(1) (2)
Nature of Repair Letter of Codes — Values
 A B C D E F G H I
 £ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 11.70 21.45 34.65 87.15 25.35 34.15 46.40 96.55 89.40
Repair or replacement of two lenses 23.40 42.90 69.30 174.30 50.70 68.30 92.80 193.10 178.80
Repair or replacement of:         
the front of a frame 12.00 12.00 12.00 12.00 12.00 12.00 12.00 12.00 12.00
a side of a frame 7.10 7.10 7.10 7.10 7.10 7.10 7.10 7.10 7.10
the whole frame 14.10 14.10 14.10 14.10 14.10 14.10 14.10 14.10 14.10”