
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2013
YR ATODLEN
Erthygl 2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn gyfan ac eithrio—
(a) Traffordd yr M4 gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael o'r ffin â Dinas a Sir Caerdydd wrth bwynt sydd ar ochr orllewinol y drosbont orllewinol wrth Gyffordd 33, i'r ffin â Rhondda Cynon Taf wrth bwynt sydd tua 260 o fetrau i'r gorllewin o ganol Cyffordd 34;
(b) ffyrdd y Weinyddiaeth Amddiffyn sydd o fewn Sain Tathan gan gynnwys—
Y darn cyfan o Aled Way o'i chyffordd â Flemingston Road;
Y darnau cyfan o Talybont Close, Clwyd Way, Margam Close, Tintern Close a Celyn Close o'u cyffyrdd ag Aled Way;
Y darnau cyfan o Crynant Close ac Ebbw Close o'u cyffyrdd â Clwyd Close;
Y darn cyfan o'r ffordd ddienw sy'n wynebu Eglwys a Chanolfan Gymunedol “The Gathering Place” o'i chyffordd â Flemingston Road.
