
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Pobl Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—“
 mae i “asesiad” yr un ystyr ag a roddir i “assessment” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2013;”“
 ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliad Annibyniaeth Bersonol) 2013;”.
(3) Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl), ym mharagraff (2)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (d), yn lle'r atalnod llawn rhodder hanner colon;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (dd), yn lle'r atalnod llawn rhodder hanner colon; ac
(c) ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—“
(e) yn derbyn y gydran symudedd o'r taliad annibyniaeth bersonol ar ôl cyflawni asesiad gan sgorio—
(i) o leiaf 12 pwynt mewn perthynas â'r gweithgaredd “cynllunio a dilyn taith”; neu
(ii) o leiaf 8 pwynt mewn perthynas â'r gweithgaredd “symud o gwmpas”,fel y nodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Reoliadau 2013”.
(4) Yn rheoliad 6 (ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi), ym mharagraff (4)(b)—
(a) yn lle “neu 4(2)(ch)” rhodder “, 4(2)(ch) neu 4(2)(e)”; a
(b) ym mharagraff (ii) yn lle “neu'r atodiad symudedd” rhodder “, yr atodiad symudedd neu'r gydran symudedd o'r taliad annibyniaeth bersonol”.
(5) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—“
9A 

(1) Pan fo person yn bodloni paragraff (2)—
(a) mae'r person i gael ei drin fel petai'n berson anabl at ddibenion rheoliad 7; a
(b) nid yw rheoliad 9(1)(c) yn gymwys i'r person,
hyd nes bod y cyfnod y rhoddwyd y bathodyn person anabl y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b)(i) ar ei gyfer wedi dod i ben.
(2) Mae person yn bodloni'r paragraff hwn os—
(a) yw hawl y person i'r lwfans byw i'r anabl yn terfynu yn unol â Rheoliadau 2013;
(b) ar y diwrnod olaf y mae gan y person hawl i'r lwfans byw i'r anabl, bod y person—
(i) yn meddu ar fathodyn person anabl sydd wedi ei roi yn unol â'r Rheoliadau hyn, a
(ii) yn berson anabl at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd bodloni rheoliad 4(1) a (2)(a);
(c) yn effeithiol o'r diwrnod canlynol, nad yw'r person, at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn berson anabl mwyach gan nad yw'r person yn bodloni rheoliad 4(1)(a) a (2)(a); ac
(ch) nad yw cyfnod y rhoddwyd y bathodyn a grybwyllwyd yn is-baragraff (b) ar ei gyfer eto wedi dod i ben.”
(6) Yn yr Atodlen, Rhan IIIA, paragraff 2—
(a) yn is-baragraff (a) yn lle “baragraffau (b) ac (c)”, rhodder “baragraffau (b), (c), (ca) ac (cb).”;
(b) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(ca) pan nad yw person, oherwydd ei anabledd, yn gallu bodloni unrhyw un neu ragor o ofynion—
(i) paragraff (a)(vi)(cc);
(ii) paragraff (a)(vi)(chch); neu
(iii) paragraff (a)(vi)(dd),
rhaid cyflwyno datganiad ysgrifenedig gyda'r ffotograff yn cadarnhau'r rhesymau pam na ellir bodloni gofynion y paragraffau hynny.”
(c) ar ôl is-baragraff newydd (ca) mewnosoder—“
(cb) rhaid i unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a ddarperir i awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff (ca)—
(i) bod wedi ei lofnodi a'i ddyddio gan y ceisydd; neu
(ii) pan na fo'n bosibl i'r ceisydd lofnodi a dyddio'r datganiad, rhaid i gynrychiolydd y ceisydd ei lofnodi a'i ddyddio, gan nodi natur ei berthynas â'r ceisydd.”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2013