
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—ystyr “y cwricwlwm Cymraeg” (“Welsh curriculum”) yw'r cwricwlwm a nodir yn—
(a) y ddogfen ar drywydd llythrennedd;
(b) y ddogfen llythrennedd — darllen;
(c) y ddogfen llythrennedd — llafaredd; ac
(d) y ddogfen llythrennedd — ysgrifennu;
 ystyr “y ddogfen “ar drywydd llythrennedd”” (“the ar drywydd llythrennedd document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Ar drywydd llythrennedd”;
 ystyr “y ddogfen “ar drywydd rhifedd”” (“the routes to numeracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Ar drywydd rhifedd”;
 ystyr “y ddogfen “literacy — oracy”” (“the literacy — oracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Oracy across the curriculum”;
 ystyr “y ddogfen “literacy — reading”” (“the literacy — reading document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Reading across the curriculum”;
 ystyr “y ddogfen “literacy — writing”” (“the literacy — writing document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Literacy — Writing across the curriculum”;
 ystyr “y ddogfen “llythrennedd — darllen”” (“the llythrennedd — darllen document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Darllen ar draws y cwricwlwm”;
 ystyr “y ddogfen “llythrennedd — llafaredd”” (“the llythrennedd — llafaredd document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Llafaredd ar draws y cwricwlwm”;
 ystyr “y ddogfen “llythrennedd — ysgrifennu”” (“the llythrennedd — ysgrifennu document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Llythrennedd — Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm”;
 ystyr “y ddogfen “rhifedd”” (“the numeracy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Rhifedd”;
 ystyr “y ddogfen “the routes to literacy”” (“the routes to literacy document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2013 o'r enw “Routes to literacy”;
 ystyr “y meysydd dysgu perthnasol” (“the relevant areas of learning”) yw—
(a) sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; a
(b) datblygiad mathemategol;
 ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—
(a) Saesneg;
(b) Cymraeg; ac
(c) mathemateg; ac
 ystyr “ysgol Gymraeg” (“Welsh-speaking school”) yw ysgol sy'n dilyn y cwricwlwm Cymraeg.
(2) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.
RHAN 1
3 

(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
4 

(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
5 

(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
6 
Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.
7 

(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen the routes to literacy yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.
8 
Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.
RHAN 2
9 

(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
(2) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
10 

(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
(2) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
11 

(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
(2) Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
12 
Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
13 

(1) Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.
(2) Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol.
14 
Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2013