
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.
2 

(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy a Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod trwyddedu” i'w darllen yn unol â hynny.
(2) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei heithrio o fewn ystyr adran 98(6) o'r Ddeddf honno.
3 

(1) Mae'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) wedi eu dynodi at ddibenion adran 98(1)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
(2) Y swyddogaethau yw unrhyw swyddogaeth yr awdurdod trwyddedu o dan—
(a) Rhan 4 o'r Ddeddf honno (adrannau 65 i 115 ac Atodlenni 7 i 9);
(b) Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011;
(c) Rheoliadau Trwyddedu Morol (Cofrestr o Wybodaeth Trwyddedu) (Cymru) 2011;
(d) Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011, ac eithrio unrhyw swyddogaeth yr awdurdod trwyddedu o dan erthygl 5;
(e) Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn Erbyn Penderfyniadau Trwyddedu) (Cymru) 2011, fel y'u diwygiwyd gan erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn.
4 
Mae'r swyddogaethau sydd wedi eu dynodi gan erthygl 3, yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod trwyddedu, neu mewn perthynas ag ef, yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu.
5 

(1) Mae erthygl 5 o Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraffau (4) a (5), yn lle “awdurdod trwyddedu” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.
6 

(1) Mae rheoliad 6 o Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn Erbyn Penderfyniadau Trwyddedu) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Daw'r rheoliad hwnnw'n baragraff (1) yn y rheoliad hwnnw.
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(2) Rhaid i berson sy'n anfon hysbysiad apêl at Weinidogion Cymru anfon, ar yr un adeg, gopi o'r hysbysiad hwnnw at yr Awdurdod Trwyddedu.”
7 

(1) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “y dyddiad effeithiol” yw 1 Ebrill 2013;
(b) ystyr “swyddogaeth berthnasol” yw unrhyw swyddogaeth sydd, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn, yn dod yn arferadwy ar y dyddiad effeithiol gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.
(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys, heb gyfyngiad, achosion cyfreithiol) sydd, ar y dyddiad effeithiol, yn y broses o gael ei wneud gan yr awdurdod trwyddedu, neu mewn perthynas ag ef, wrth arfer swyddogaeth berthnasol, neu mewn cysylltiad â hi, gael ei barhau gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu.
(3) Mae unrhyw beth a wneir gan yr awdurdod trwyddedu, neu mewn perthynas ag ef, cyn y dyddiad effeithiol wrth arfer swyddogaeth berthnasol, neu mewn cysylltiad â hi fel arall, i gael effaith, i'r graddau y bo angen hynny er mwyn parhau ei effaith ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw, fel petai wedi ei wneud gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2013