
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac yn dod i rym ar 18 Mawrth 2013.
2 
Diwygir Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 yn unol â'r Rheoliadau canlynol.
3 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2, ar ôl y diffiniad o “mangre sydd heb ei thrwyddedu” mewnosoder—“
 ystyr “mangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu” (“unlicensed processing premises”) yw mangre sydd heb ei thrwyddedu—
(a) ar gyfer prosesu semen—
(i) a gasglwyd mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu neu ganolfan gasglu ddomestig, a
(ii) nas bwriedir ar gyfer y fasnach ryng-Gymunedol, a
(b) a oruchwylir gan filfeddyg canolfan o ganolfan gasglu CE;”.
4 

(1) Ym mharagraff (1) o reoliad 10, hepgorer “, neu ei ddefnyddio fel anifail ymlid,”.
(2) Ym mharagraff (4) o reoliad 10, hepgorer “neu'r anifail ymlid a ddefnyddiwyd i gasglu'r semen hwnnw”.
5 
Yn rheoliad 16, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i ddyletswyddau milfeddyg canolfan mewn canolfan gasglu CE, a bennir ym mharagraff (1B), gael eu cyflawni hefyd, gan y milfeddyg hwnnw, pan fo'n goruchwylio mangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu.
(1B) Y dyletswyddau yw'r rhai a bennir yn y darpariaethau canlynol o Ran 3 o Atodlen 3—
(a) is-baragraffau (ch), (d) ac (dd) o baragraff 1; a
(b) is-baragraff (b) o baragraff (2).”.
6 
Yn lle rheoliad 21 rhodder—“
21 

(1) Ni chaiff neb ddefnyddio anifail ymlid i gynorthwyo gyda chasglu semen oni fydd yr anifail hwnnw wedi ei gymeradwyo at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(2) Ond ni fydd cymeradwyaeth o'r fath yn ofynnol ar gyfer anifail ymlid a ddefnyddir i gynorthwyo gyda chasglu semen mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu.”.
7 
Yn rheoliad 24, yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—“
(a) mewn canolfan gasglu CE;
(b) mewn canolfan gasglu ddomestig; neu
(c) mewn mangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu.”.
8 
Yn rheoliad 28, ym mharagraff (2), yn lle “yw wedi ei storio” rhodder “oedd y semen rhewedig wedi ei storio yn flaenorol”.
9 
Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2 o Ran 1, yn lle “dogn” rhodder “casgliad”.
10 
Yn Atodlen 5, ym mharagraff 2 o Ran 1, yn lle “dogn” rhodder “casgliad”.
11 
Yn Atodlen 7—
(a) ym mharagraff 1(c), yn lle “neu ganolfan gasglu ddomestig i'w brosesu” rhodder “, i ganolfan gasglu ddomestig neu i fangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu i'w brosesu”;
(b) yn lle paragraff 1(c)(ii) rhodder—“
(ii) pan symudir y semen i ganolfan gasglu CE, bod y profion a bennir ym mharagraff 1(1) o Ran 2 o Atodlen 3 wedi eu cynnal ar yr anifail buchol a bod y canlyniadau'n negyddol;
(iia) pan symudir y semen i ganolfan gasglu ddomestig neu i fangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu, bod y profion a bennir ym mharagraff 2 o Ran 2 o Atodlen 8 wedi eu cynnal ar yr anifail buchol a bod y canlyniadau'n negyddol;”; ac
(c) ym mharagraff 2(2), yn lle “i filfeddyg canolfan y ganolfan gasglu y mae semen yr anifail buchol yn cael ei symud” rhodder “i'r milfeddyg canolfan sy'n goruchwylio'r ganolfan neu'r fangre y symudir semen yr anifail buchol”.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
21 Chwefror 2013