
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Apelau Derbyn Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Y diwrnod a bennir fel y diwrnod y daw’r Cod Apelau Derbyn Ysgol (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 4 Hydref 2013) i rym yw 1 Ionawr 2014.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2013