
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2014.
2 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau’r Tribiwnlys ar sail teilyngdod y personau hynny sydd i’w penodi.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag apwyntio person yn aelod o’r Tribiwnlys oni bai eu bod wedi eu bodloni bod y person o gymeriad da.
3 
Wrth benodi aelodau’r Tribiwnlys rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r angen i gynnal egwyddorion—
(a) annibyniaeth y Tribiwnlys; a
(b) rheolaeth y gyfraith.
4 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â phenodi person i fod yn Llywydd y Tribiwnlys oni bai eu bod wedi eu bodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o’r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi.
(2) Wrth benodi aelodau’r Tribiwnlys ac eithrio’r Llywydd, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r wybodaeth o’r Gymraeg a’r hyfedredd ynddi sydd gan aelodau’r Tribiwnlys gyda’i gilydd.
(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 2 a 3.
5 
Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bersonau y maent yn eu penodi’n aelodau o’r Tribiwnlys.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
10 Rhagfyr 2013