
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2014.
2 

(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad (2)(1) (dehongli)—
(a) hepgorer ““Rheoliad 1162/2009” (“Regulation 1162/2009”)”; a
(b) yn lle “a “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”)” rhodder “, “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) a “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”)”.
(3) yn Atodlen 1 (Diffiniadau o Ddeddfwriaeth UE)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1162/2009”;
(b) yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 1079/2013””;
(c) yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 1079/2013””;
(d) yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 702/2013””;
(e) ar y diwedd, mewnosoder—“
 “ystyr “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 702/2013 ar fesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran achredu labordai swyddogol sy’n cynnal profion swyddogol ar gyfer Trichinella;ystyr “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1079/2013 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor..”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle “Rheoliad 1162/2009” rhodder “Rheoliad 702/2013”.
(3) Yn Atodlen 1 (Diffiniadau o Ddeddfwriaeth yr UE)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1162/2009”;
(b) yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009” rhodder ““Rheoliad 1079/2013””;
(c) yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004” yn lle ““Rheoliad 1162/2009”” rhodder ““Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”)”;
(d) ar y diwedd, mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 702/2013 ar fesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran achredu labordai swyddogol sy’n cynnal profion swyddogol ar gyfer Trichinella.”
4 

(1) Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 5 hepgorer “ynghyd ag aelodaeth o’i Grŵp Proffesiynol Microbioleg Bwyd”.
5 
Yn adran 9(5)(a) o Ddeddf Diogelu Bwyd 1990 (arolygu bwyd amheus ac ymafael ynddo), yn lle “4(a)” rhodder “4(b)”.
Mark Drakford
Y Gweinidog lechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cmyru
3 Rhagfyr 2013