
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2013.
2 
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
3 
Ar 31 Rhagfyr 2013 mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) wedi ei diddymu a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf i Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol, ac sy’n elusen sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol sy’n ddibenion addysgol yn unig.
4 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”) yn union cyn 31 Rhagfyr 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy’n gyflogedig fel hynny;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 31 Rhagfyr 2013;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion Further Education Corporation”); a
(d) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Goleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”).
5 
Mae Coleg Ceredigion (“Coleg Ceredigion”), sef sefydliad addysgol o’r math a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2) o adran 28 o’r Ddeddf, wedi ei ddynodi fel sefydliad at ddibenion yr adran honno.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Rhagfyr 2013