
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Tachwedd 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
2 

(1) Diwygir Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 23, 24 a 25.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991 yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 2 (ymwelwyr annibynnol) ym mharagraff (a)(i) hepgorer “, or a council manager of the local authority (within the meaning of section 11(4)(b) of the Local Government Act 2000 (local authority executives))”.
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 10 (atodol) ym mharagraff (2A) hepgorer “neu drefniadau amgen” a “neu Fwrdd” ac ym mharagraff (4) hepgorer y diffiniadau o “Bwrdd” a “trefniadau amgen”.
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniadau o “bwrdd” a “trefniadau amgen”.
(3) Yn rheoliad 8 hepgorer paragraff (2).
(4) Yn rheoliad 9 hepgorer paragraff (2).
6 

(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 3 (dehongli Rhan II) hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen”.
(3) Yn rheoliad 17 (y camau cyn y refferendwm)—
(a) ym mharagraff (7)(a), hepgorer “neu drefniadau amgen”;
(b) ym mharagraff 7(a)(i) hepgorer “neu’r trefniadau amgen”; ac
(c) ym mharagraff (7)(b), hepgorer “neu drefniadau amgen”.
(4) Yn rheoliad 20 (gofynion ynghylch cynigion)—
(a) ym mharagraff (3)(a), hepgorer “na threfniadau amgen”;
(b) ym mharagraff 3(a)(ii) hepgorer “na’r trefniadau amgen”; ac
(c) ym mharagraff 3(b), hepgorer “neu drefniadau amgen”.
(5) Yn rheoliad 24 (y camau os caiff cynigion refferendwm eu gwrthod)—
(a) ym mharagraff (1)(b) yn lle “os nad oes trefniadau amgen ar waith gan yr awdurdod bryd hynny na threfniadau gweithrediaeth” rhodder “os nad oes trefniadau gweithrediaeth ar waith gan yr awdurdod bryd hynny”;
(b) ym mharagraff (1)(c) hepgorer “neu tan y bydd wedi’i awdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol”;
(c) hepgorer paragraff (1)(d);
(d) ym mharagraff (2)(b) hepgorer “neu’r trefniadau amgen”; ac
(e) ym mharagraff (4) hepgorer “neu drefniadau amgen”.
7 

(1) Diwygir Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 yn unol a’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen”; a
(b) yn y diffiniad o “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg”, hepgorer “neu” ar ddiwedd paragraff (a) a hepgorer paragraff (b).
(3) Hepgorer rheoliad 3 (trefniadau amgen).
(4) Hepgorer rheoliad 11 (cynrychiolwyr eglwysig).
8 

(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y diffiniad o “person perthnasol” hepgorer paragraff (b).
(3) Hepgorer rheoliad 5 (y pŵer i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a rheolwr cyngor).
(4) Yn rheoliad 12—
(a) hepgorer paragraff (2); a
(b) ym mharagraff (3)(c)(i) a (ii) yn lle “dwy ran o bump” rhodder “hanner”.
9 

(1) Nid yw’r Rhan hon yn effeithiol o ran awdurdod lleol os yw’r awdurdod lleol yn dal i ddefnyddio trefniadau amgen ar y diwrnod ac ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym, na chyhyd ag y bydd yn dal i ddefnyddio’r trefniadau hynny.
(2) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 35 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
RHAN 3
10 

(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn Atodlen 1, yn ail golofn y tabl—
(a) yn lle “Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”;
(b) yn lle “Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27F neu 27H o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”; ac
(c) yn lle “Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27J neu 27L o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”.
11 

(1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1979 yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 4(2) (amrywio gorchmynion ynglŷn â grwpio plwyfi neu gymunedau) yn lle “or section 29” rhodder “section 27F or 27H”.
Lesley Griffiths
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2013