
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013 a daw i rym ar 12 Rhagfyr 2013.
2 
Mae Atodlen 1 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (enwau byrddau iechyd lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir hwy ar eu cyfer) wedi ei diwygio fel a ganlyn:
(a) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan University Local Health Board”);
(b) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” (“Cwm Taf Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf” (“Cwm Taf University Local Health Board”); ac
(c) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda” (“Hywel Dda Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda” (“Hywel Dda University Local Health Board”).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2013