
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2013 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2013.
2 
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
 Yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod)—
(a) yn lle Rhan E rhodder—
(i) yng ngholofn 1—“
E. Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Biliau preifat; a”
(ii) yng ngholofn 2—“
Adrannau 52 a 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.”; a
(b) yn Rhan Ff (swyddogaethau amrywiol) ar ôl paragraff 17—
(i) yng ngholofn 1, mewnosoder—“
18. Swyddogaethau sy’n ymwneud ag absenoldeb teuluol aelodau awdurdod lleol”; a
(ii) yng ngholofn 2 mewnosoder—“
Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013.”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2013