
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009; ac
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011.
2 

(1) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar y diwrnod penodedig yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
(a) adrannau 1(1) i (3);
(b) adran 1(4) at bob diben arall; ac
(c) adran 1(5).
(2) Y diwrnod penodedig yw—
(a) 30 Ebrill 2014 mewn perthynas ag:
(i) cartrefi gofal;
(ii) cartrefi plant;
(iii) neuaddau preswyl;
(iv) ystafelloedd at ddibenion preswyl; a
(b) 1 Ionawr 2016 mewn perthynas ag:
(i) tai annedd;
(ii) fflatiau.
(3) Nid yw paragraff (1) yn cychwyn darpariaethau’r Mesur mewn perthynas ag adeiladau sydd—
(a) yn rhestredig yn unol ag adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
(b) mewn ardal gadwraeth a ddynodwyd yn unol ag adran 69 o’r Ddeddf honno;
(c) wedi eu cynnwys yn y gofrestr o henebion a gynhelir o dan adran 1 o Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979;
(d) adeiladau ynni a eithrir; nac
(e) adeiladau dros dro, hynny yw adeiladau sydd ag amser defnyddio a gynlluniwyd o ddwy flynedd neu lai.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2013