
RHAN 1
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013.
2 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i ddaliad mewn parth perygl nitradau, a ddynodwyd fel y cyfryw gan y Rheoliadau hyn.
(3) Yn achos daliad sydd yn rhannol mewn parth perygl nitradau a ddynodwyd fel y cyfryw gan y Rheoliadau hyn, mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i’r rhan o’r daliad sydd oddi mewn i’r parth, ac y mae cyfeiriad at ddaliad yn gyfeiriad at y rhan honno.
3 
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Hydref 2013.
4 
Mewn daliad neu ran o ddaliad na leolir o fewn parth perygl nitradau o dan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 ond a leolir o fewn ardal a ddynodwyd yn barth perygl nitradau o dan y Rheoliadau hyn—
(a) ni fydd rheoliadau 12 i 22, rheoliad 23(2), rheoliadau 24 a 25, 30 i 33 a rheoliadau 36 i 46 yn gymwys tan 1 Ionawr 2014;
(b) ni fydd rheoliad 23(1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2016; ac
(c) ni fydd rheoliadau 26 i 29 a 34 a 35 yn gymwys tan 1 Awst 2015.
5 
Mae dŵr wedi’i lygru—
(a) os yw’n ddŵr croyw ac yn cynnwys crynodiad nitradau sy’n uwch na 50 mg/l, neu y gallai ei gynnwys pe na bai’r Rheoliadau hyn yn gymwys yno, neu
(b) os yw’n ewtroffig neu y gallai ddod yn ewtroffig yn y dyfodol agos pe na bai’r Rheoliadau hyn yn gymwys yno.
6 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “amaethyddiaeth” yr un ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947;
 ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;
 mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;
 ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 14(1)(c);
 ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;
 ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;
 ystyr “da byw sy’n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;
 ystyr “daliad” (“holding”) yw’r holl dir sydd o fewn parth perygl nitradau ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’r meddiannydd ac sy’n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu fagu da byw at ddibenion amaethyddol;
 ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;
 ystyr “ewtroffig” (“eutrophic”) yw dŵr sydd wedi’i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy’n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu’n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy’n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;
 ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;
 ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi’i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
 ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;
 ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi’i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
 ystyr “porfa” (“grass”) yw—
(a) glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod llai na phedair blynedd);
(b) sy’n bodoli rhwng hau ac aredig y borfa; ac
(c) mae’n cynnwys cnydau yr heuwyd porfa oddi tanynt,
(d) ond nid yw’n cynnwys glaswelltir sydd â 50% neu ragor o feillion;
 “pridd tenau” (“shallow soil”) yw pridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;
 ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy’n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall sy’n cynnwys—
(a) yn yr haen hyd at ddyfnder o 40cm—
(i) mwy na 50 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,
(ii) llai na 18 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a
(iii) llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig; a
(b) yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm—
(i) mwy na 70 % yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm;
(ii) llai na 15 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm;
(iii) llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig;ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dŵr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda’r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi’u gwahanu i’w ffracsiynau hylifol a’u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw’r slyri);
 mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;
 ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sydd â’u ffynhonnell yn anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw; ac
 ystyr “tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir:
(a) y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º (3 gradd);
(b) nad oes ynddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi’i selio); ac
(c) sydd o leiaf 50 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy’n arwain at gwrs dŵr.
RHAN 2
7 

(1) Yn y Rhan hon—
 ystyr “daliad perthnasol” (“relevant holding”) yw tir ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’r meddiannydd ac sy’n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu i fagu da byw at ddibenion amaethyddol, ac sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn ardal—
(a) y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn argymell; a
(b) y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar dderbyn yr argymhelliad hwnnw (gyda diwygiadau neu hebddynt) mewn perthynas â’r ardal honno,
(c) y dylid ei dynodi, neu barhau ei dynodiad, yn barth perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn;ystyr “y person penodedig” (“the appointed person”) yw person a benodwyd gan Weinidogion Cymru.
(2) Mae’r ardaloedd a nodir yn barthau perygl nitradau ar y map o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013” (“Nitrate Vulnerable Zones Index Map 2013”) ac a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ wedi eu dynodi yn barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Parthau perygl nitradau yw darnau o dir sy’n draenio i ddyfroedd llygredig ac yn cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny.
(4) I gynorthwyo Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’u dyletswydd i adolygu o dan reoliad 11(3), rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym a phob pedair blynedd fan hwyraf wedi hynny, wneud argymhellion i Weinidogion Cymru, gan gyfeirio at y materion a grybwyllir yn rheoliad 11(3)(a) i (c), ynglŷn â pha ardaloedd y dylid eu dynodi, neu y dylid parhau eu dynodiad, yn barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(5) Mae unrhyw argymhellion ynglŷn â’r materion a nodir yn rheoliad 7(4) ac a wnaed gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud ar y dyddiad hwnnw.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r argymhellion hynny a wnaed gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru y maent â’u bryd ar eu derbyn (gyda diwygiadau neu hebddynt) ac anfon hysbysiad o’r argymhellion i unrhyw berchennog neu feddiannydd daliad perthnasol.
(7) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfeiriad at dudalen ar wefan a gynhelir gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru, lle y mae modd dod o hyd i’r argymhelliad perthnasol (gydag unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei wneud iddo).
8 

(1) Caiff perchennog neu feddiannydd daliad perthnasol yr anfonwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(6) apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
(2) Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a nodir ym mharagraff (3) y ceir apelio.
(3) Y seiliau yw na ddylai Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â’r daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono, dderbyn argymhellion Corff Adnoddau Naturiol Cymru (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei wneud iddynt) oherwydd—
(a) nad yw’r daliad perthnasol nac unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei nodi’n llygredig neu’n parhau i’w nodi felly; neu
(b) bod y daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru ei nodi’n llygredig, neu na ddylent barhau i’w nodi felly.
(4) Rhaid seilio’r apêl ar naill ai—
(a) data a ddarperir gan yr apelydd; neu
(b) tystiolaeth a ddarperir gan yr apelydd bod y data y mae Gweinidogion Cymru’n dibynnu arnynt yn anghywir.
(5) Rhaid i’r apêl—
(a) cael ei gwneud yn ysgrifenedig yn y dull a’r ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;
(b) cynnwys manylion yr holl dystiolaeth y mae’r apelydd yn bwriadu dibynnu arni; ac
(c) cyrraedd Gweinidogion Cymru ddim hwyrach na 35 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru yr hysbysiad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r apêl ymlaen at y person penodedig i’w hystyried a’i phenderfynu ganddo.
9 

(1) Os bodlonir y person penodedig fod apêl a gyflwynwyd yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 8 ym mhob manylyn o bwys, rhaid i’r person penodedig fynd ymlaen i benderfynu’r apêl.
(2) Y person penodedig sydd i bennu’r weithdrefn ar gyfer penderfynu’r apêl.
(3) Ond mae hynny’n ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(4) Cyn penderfynu’r apêl rhaid i’r person penodedig, gan ganiatáu pa bynnag gyfnod o amser sy’n rhesymol—
(a) gwahodd yr apelydd a Gweinidogion Cymru i gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;
(b) anfon copi at Weinidogion Cymru o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd;
(c) anfon copi at yr apelydd o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru;
(d) rhoi cyfle i’r apelydd ac i Weinidogion Cymru gyflwyno sylwadaethau i’r person penodedig, ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a’r llall.
(5) Caiff y person penodedig, ar unrhyw adeg, ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu gan Weinidogion Cymru.
(6) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson y mae’n ymddangos bod ganddo fuddiant sylweddol yn yr apêl i gyflwyno sylwadau, ond rhaid iddo roi cyfle i’r apelydd ac i Weinidogion Cymru gyflwyno sylwadaethau ar unrhyw sylwadau a wnaed.
(7) Caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau, sylwadaethau neu ddogfennau a gyflwynir mewn unrhyw fodd ac eithrio’n unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(8) Caiff y person penodedig, os bodlonir ef fod amgylchiadau eithriadol yn bodoli, gynnull gwrandawiad llafar.
(9) Bydd gan yr apelydd a Gweinidogion Cymru hawl i ymddangos mewn unrhyw wrandawiad llafar, a chaiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw barti arall ymddangos yno.
(10) Pan fo apêl wedi ei phenderfynu, rhaid i’r person penodedig anfon copi o’r penderfyniad at yr holl bartïon i’r apêl.
(11) Rhaid i bob un sy’n barti i apêl dalu ei gostau ei hunan.
(12) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn ei phenderfynu gan y person penodedig.
(13) Mae tynnu apêl yn ôl yn effeithiol wrth i’r apelydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person penodedig.
(14) Os tynnir apêl yn ôl bydd y person penodedig yn peidio â bod o dan ddyletswydd i’w hystyried a’i phenderfynu.
10 

(1) Mae penderfyniad y person penodedig mewn apêl yn rhwymo Gweinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, ar wefan a gynhelir ganddynt hwy, bob penderfyniad apêl gan y person penodedig.
11 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gadw dan adolygiad yn gyson gyflwr ewtroffig dyfroedd wyneb croyw, dyfroedd aberol a dyfroedd arfordirol.
(2) Cyn 1 Ionawr 2017, ac o leiaf bob pedair blynedd ar ôl hynny, rhaid i Weinidogion Cymru fonitro’r crynodiad nitradau mewn dyfroedd croyw dros gyfnod o un flwyddyn—
(a) mewn safleoedd samplu sy’n gynrychiadol o ddŵr wyneb, o leiaf bob mis ac yn amlach yn ystod cyfnodau llifogydd, a
(b) mewn safleoedd samplu sy’n gynrychiadol o ddŵr daear, ar adegau rheolaidd a chan gymryd i ystyriaeth ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl,
ac eithrio yn achos y safleoedd samplu hynny lle’r mae’r crynodiad nitradau ym mhob sampl blaenorol a gymerwyd at y diben hwn wedi bod islaw 25 mg/l ac nad oes unrhyw ffactor newydd wedi ymddangos sy’n debygol o gynyddu’r cynnwys nitradau, ac mewn achos o’r fath, bob wyth mlynedd yn unig y bydd angen ail gynnal y rhaglen fonitro.
(3) Ar ddiwedd pob cyfnod o bedair neu wyth mlynedd fan hwyraf, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) nodi’r dŵr y mae llygredd yn effeithio arno neu ddŵr y gallai llygredd effeithio arno pe na chymhwysid y rheolaethau sydd yn y Rheoliadau hyn yn yr ardal honno, gan ddefnyddio’r meini prawf yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol;
(b) nodi tir sy’n draenio i’r dyfroedd hynny, neu i ddŵr a nodwyd yn yr un modd yn Lloegr, ac sy’n cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny;
(c) cymryd i ystyriaeth newidiadau a ffactorau nas rhagwelwyd pan wnaed y dynodiad blaenorol; a
(d) os oes angen, diwygio’r parthau perygl nitradau a ddynodir neu ychwanegu atynt.
RHAN 3
12 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi’i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
(2) Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.
(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at y diben o ganfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.
13 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad, yn fwy na 250 kg.
(2) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig, yn gyfan gwbl ar ffurf compost ardystiedig, a ddodir ar unrhyw hectar penodol o’r daliad, yn fwy nag—
(i) 1000 kg mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd os dodir ef fel tomwellt ar dir perllan; neu
(ii) 500 kg mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os dodir ef ar unrhyw dir arall.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo cyfanswm y nitrogen mewn tail organig drwy gyfeirio at y dulliau a ddisgrifir yn rheoliad 17 ar gyfer penderfynu’r cynnwys nitrogen.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “tir perllan” (“orchard land”) yw tir y tyfir arno unrhyw ffrwyth a restrir yn Atodlen 2.
(b) ystyr “compost ardystiedig” (“certified compost”) yw compost gwyrdd neu gompost gwyrdd/bwyd y mae’r cyflenwr yn cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn bodloni’r safonau a bennir yn y cyhoeddiad PAS 100:2011 ar ddeunyddiau a gompostiwyd, dyddiedig Ionawr 2011 ac nad yw’n cynnwys unrhyw dail da byw.
(c) Rhaid i’r meddiannydd gadw yn ei feddiant gadarnhad ysgrifenedig fod y tail organig yn cydymffurfio ag is-baragraff (b).
RHAN 4
14 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen—
(a) cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debyg o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad nitrogen yn y pridd”);
(b) cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd; ac
(c) llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Yn achos unrhyw gnwd nad yw’n laswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd wneud hyn cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn gwrteithio cnwd sydd wedi’i blannu neu y bwriedir ei blannu.
(3) Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd wneud hyn bob blwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.
(4) Rhaid i’r cynllun fod ar ffurf barhaol.
(5) Rhaid i’r cynllun gofnodi—
(a) cyfeirnod neu enw’r cae perthnasol;
(b) y rhan o’r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu; ac
(c) y math o gnwd.
(6) Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i’r cynllun gofnodi—
(a) y math o bridd;
(b) y cnwd blaenorol (ac os porfa oedd y cnwd blaenorol, a reolid y borfa drwy’i thorri ynteu’i phori);
(c) y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi’i gyfrifo’n unol â pharagraff (1) a’r dull a ddefnyddiwyd i gyrraedd y ffigur hwn;
(d) y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu;
(e) maint y cynnyrch a ddisgwylir (os yw’n gnwd âr); ac
(f) y maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd.
15 

(1) Cyn taenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd, ar bob achlysur, gyfrifo maint y nitrogen o’r tail hwnnw sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.
(2) Rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu, gofnodi—
(a) y rhan y taenir y tail organig arni;
(b) y maint o dail organig sydd i’w daenu;
(c) y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis);
(d) y math o dail organig;
(e) cyfanswm y nitrogen sydd ynddo; ac
(f) cyfanswm y nitrogen sy’n debygol o fod ar gael, o’r tail organig y bwriedir ei daenu, i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.
(3) Cyn taenu gwrtaith nitrogen, rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a) y maint sydd ei angen; a
(b) y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis).
16 

(1) Hyd at 31 Rhagfyr 2013, ni waeth beth fo’r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a) y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a
(b) y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail da byw yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, a gyfrifir yn unol â rheoliad 17,
yn fwy yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis na’r terfynau a bennir yn rheoliad 18.
(2) Ar neu ar ôl 1 Ionawr 2014, ni waeth beth fo’r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a) y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a
(b) y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organig yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, a gyfrifir yn unol â rheoliad 17,
yn fwy yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis na’r terfynau a bennir yn rheoliad 18.
17 

(1) Rhaid i’r meddiannydd benderfynu cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw, at ddibenion rheoliad 16, drwy—
(a) defnyddio’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 3; neu
(b) samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
(2) Unwaith y bydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw wedi ei benderfynu, rhagdybir y canrannau canlynol er mwyn penderfynu maint y nitrogen yn y tail da byw sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo;

Math o dail da byw Maint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor taenu y’i taenir ynddo
Hyd at 31 Rhagfyr 2013 O 1 Ionawr 2014
Slyri gwartheg 35% 40%
Slyri moch 45% 50%
Tail dofednod 30% 30%
Tail da byw eraill 10% 10%
(3) Mewn perthynas â phob tail organig arall, rhaid i’r meddiannydd benderfynu cyfanswm y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, at ddibenion rheoliad 16—
(a) drwy gyfeirio at ddadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr;
(b) i’r graddau nad oes gwybodaeth o’r fath ar gael, drwy gyfeirio at y gwerthoedd a roddir yn y Llawlyfr Gwrteithiau (RB 209) (8fed Argraffiad) (ynddo, cyfeirir atynt fel “nitrogen available to the next crop”); neu
(c) drwy samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
18 

(1) Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd a restrir yn y golofn gyntaf isod yw’r ffigur a roddir yn yr ail golofn isod, wedi ei addasu yn unol â’r nodiadau i’r tabl hwnnw, ac wedi ei luosi gyda chyfanswm yr arwynebedd, mewn hectarau, o’r cnwd hwnnw a heuwyd ar y daliad.
Meintiau uchaf o nitrogen
Cnwd Maint y nitrogen a ganiateir (kg) Cynnyrch safonol (tunnell/ha)
Betys coch 350 dd/g
Betys siwgr 120 dd/g
Blodfresych 350 dd/g
Bresych 350 dd/g
Calabrese 350 dd/g
Cennin 350 dd/g
Corffa 250 dd/g
Courgettes 250 dd/g
Ffa dringo 250 dd/g
Ffa maes 0 dd/g
Gwenith a heuir yn y gwanwyn 180 7.0
Gwenith a heuir yn yr hydref neu’r gaeaf cynnar 220 8.0
Haidd y gaeaf 180 6.5
Haidd y gwanwyn 150 5.5
India-corn 250 dd/g
Indrawn porthi 150 dd/g
Letys 250 dd/g
Maip 250 dd/g
Merllys 150 dd/g
Moron 150 dd/g
Pannas 250 dd/g
Porfa 300 dd/g
Pys 0 dd/g
Radis 150 dd/g
Rêp had olew y gaeaf 250 3.5
Seleri 250 dd/g
Swêds 150 dd/g
Tatws 270 dd/g
Winwns 250 dd/g
Ysgewyll Brwsel 350 dd/g






RHAN 5
19 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy’n taenu tail organig ar y daliad hwnnw gynnal map o’r daliad (“map risg”) yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Os bydd amgylchiadau’n newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn tri mis i’r newid.
(3) Rhaid i’r map risg ddangos—
(a) pob cae, ynghyd â’i arwynebedd mewn hectarau;
(b) yr holl ddyfroedd wyneb;
(c) unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad;
(d) y rhannau â phriddoedd tywodlyd neu denau;
(e) tir sydd ar oleddf o fwy na 12°;
(f) tir sydd o fewn 10 metr i ddyfroedd wyneb;
(g) tir sydd o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew;
(h) draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi’i selio);
(i) safleoedd sy’n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau os bwriedir defnyddio’r dull hwn o storio tail; a
(j) tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (mae hyn yn opsiynol i feddiannydd nad yw’n bwriadu taenu tail ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel yn ystod y cyfnod storio yn unol â rheoliad 35).
(4) Os yw meddiannydd yn taenu tail organig drwy ddefnyddio cyfarpar taenu manwl hyd at 6 metr o ddŵr wyneb fel y caniateir gan reoliad 22(1), rhaid i’r map risg nodi’r tir sydd o fewn 6 metr i ddyfroedd wyneb.
(5) Rhaid i’r meddiannydd gadw copi o’r map risg.
20 

(1) Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gynnal arolygiad o’r caeau yn gyntaf, er mwyn ystyried y risg y gallai nitrogen fynd i mewn i ddŵr wyneb.
(2) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yn benodol ar—
(a) goleddf y tir, yn enwedig os yw’r goleddf yn fwy na 12°;
(b) unrhyw orchudd tir;
(c) pa mor agos yw’r tir at ddŵr wyneb;
(d) yr amodau tywydd;
(e) y math o bridd; a
(f) presenoldeb draeniau tir.
(3) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen os yw’r pridd yn ddyfrlawn, dan ddŵr neu wedi’i orchuddio ag eira, neu os oedd y pridd wedi rhewi am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol.
21 
Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.
22 

(1) Ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl ac yn yr achos hwnnw ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.
(2) Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—
(a) os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—
(i) yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981; neu
(ii) yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 (ynglŷn â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD));
(b) os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig;
(c) os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb; a
(d) os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.
(3) Ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn diffinnir “cyfarpar taenu manwl” (“precision spreading equipment”) fel system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd.
23 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw berson sy’n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu isel, sef is na 4 metr o’r ddaear.
(2) Gellir defnyddio cyfarpar taenu sydd â thafliad taenu sy’n fwy na 4 metr o’r ddaear ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel pan fydd cyfarpar o’r fath yn gallu cyflawni cyfartaledd cyflymder dodi slyri heb fod yn fwy na 2 filimedr yr awr pan fydd wrthi’n gweithredu’n ddi-dor.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n taenu gwrtaith nitrogen ei daenu mor fanwl gywir ag y bo modd.
24 

(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n dodi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl (ac eithrio pridd sydd wedi ei hau) sicrhau y corfforir y tail yn y pridd yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid corffori tail dofednod cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf.
(3) Rhaid corffori slyri a hylif slwtsh carthion treuliedig (hynny yw, hylif sy’n dod o drin slwtsh carthion drwy dreulio anerobig) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, oni ddodwyd y slyri a’r hylif gan ddefnyddio cyfarpar o fath a ddisgrifir yn rheoliad 22(4).
(4) Rhaid corffori unrhyw dail organig arall (ac eithrio tail organig a daenir fel tomwellt ar bridd tywodlyd) yn y pridd cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, os yw’r tir o fewn 50 metr i ddŵr wyneb ac yn goleddfu mewn modd a allai achosi goferu i’r dŵr hwnnw.
RHAN 6
25 
Yn y Rhan hon ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd” (“organic manure with high readily available nitrogen”) yw tail organig y mae mwy na 30 % o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i’r cnwd ar yr adeg y taenir y tail.
26 
Yn ddarostyngedig i reoliadau 27 a 28, ni chaiff neb daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—

 Hyd at 31 Rhag 2013 Ar neu ar ôl 1 Ion 2014
Math o bridd Glaswelltir Tir tro Glaswelltir Tir tro
Pridd tywodlyd neu denau 1 Medi i 31 Rhagfyr 1 Awst i 31 Rhagfyr 1 Medi i 31 Rhagfyr 1 Awst i 31 Rhagfyr
Pob math arall o bridd 15 Hydref i 15 Ionawr 1 Hydref I 15 Ionawr 15 Hydref i 31 Ionawr 1 Hydref i 31 Ionawr
27 
Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.
28 
Caiff meddiannydd daliad sydd wedi’i gofrestru’n gynhyrchydd organig gyda chorff a gofrestrwyd gyda’r Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—
(a) ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu
(b) ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau,ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.
29 
O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—
(a) 30 metr ciwbig yr hectar yw’r uchafswm o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw’r uchafswm o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg; a
(b) rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.
30 

(1) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynwysedig)—
(a) yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu
(b) yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.
(2) Caniateir taenu gwrtaith yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, ar yr amod nad eir dros ben y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.
(3) Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hyn ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 4 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.
RHAN 7
31 
Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig, ei storio—
(a) mewn llestr;
(b) mewn adeilad dan do;
(c) ar wyneb anhydraidd; neu
(d) yn achos tail solet y gellir ei bentyrru’n domen ar ei thraed ei hun, ac nad oes hylif yn draenio o’r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.
32 

(1) Rhaid i safle dros dro mewn cae beidio â bod—
(a) mewn cae sy’n agored i lifogydd neu fynd yn ddyfrlawn;
(b) o fewn 50m i ffynnon, pydew neu dwll turio neu o fewn 10m i ddŵr wyneb neu draen tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi’i selio);
(c) mewn unrhyw leoliad unigol am fwy na 12 mis yn olynol; neu
(d) yn yr un man ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd diwethaf.
(2) Rhaid i unrhyw dail dofednod solet, nad oes sarn yn gymysg ag ef ac a gedwir ar safle dros dro mewn cae, gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.
33 
Yn ychwanegol at reoliad 32, o 1 Ionawr 2014 ymlaen—
(a) rhaid peidio â symud uwchbridd o’r tir lle y bwriedir adeiladu safle dros dro mewn cae;
(b) rhaid i safle dros dro mewn cae beidio â bod o fewn 30m i gwrs dŵr ar dir y nodir ar y map risg fod ei oleddf yn fwy na 12°; a
(c) dylid cadw arwyneb unrhyw safle dros dro mewn cae mor fach ag y bo’n rhesymol ymarferol, er mwyn lleihau effeithiau trwytholchi gan ddŵr glaw.
34 
Rhaid i’r broses o wahanu slyri i’w ffracsiynau solet a hylifol gael ei chyflawni’n fecanyddol neu ar wyneb anhydraidd lle mae’r ffracsiwn hylifol yn draenio i mewn i gynhwysydd addas.
35 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy’n cadw unrhyw un o’r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o ofod i storio’r holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a’r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn buarth neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.
(2) Rhaid cyfrifo cyfaint y tail a gynhyrchir gan yr anifeiliaid ar y daliad yn unol ag Atodlen 1.
(3) Rhaid bod gan storfa slyri y gofod i storio, yn ychwanegol at y tail, unrhyw ddŵr glaw, golchiadau neu hylif arall sy’n dod i mewn i’r llestr (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) yn ystod y cyfnod storio.
(4) Nid yw cyfleusterau storio’n angenrheidiol ar gyfer slyri na thail dofednod—
(a) a anfonir oddi ar y daliad; neu
(b) a daenir ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud yn unol â’r cyfyngiadau ar daenu yn y Rheoliadau hyn); ond yn yr achos hwn rhaid darparu cyfleusterau storio ar gyfer tail wythnos ychwanegol fel mesur wrth gefn pe na bai’n bosibl taenu ar rai dyddiadau.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn y “cyfnod storio” (“storage period”) (mae pob dyddiad yn gynwysedig) yw—
(a) y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill ar gyfer moch a dofednod;
(b) y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth ym mhob achos arall.
RHAN 8
36 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi’i gyfrifo’n unol â rheoliad 12(3).
(2) Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.
37 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—
(a) maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 35, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;
(b) maint y gofod storio (cynwysyddion slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl i gydymffurfio â rheoliad 35, gan gymryd i ystyriaeth—
(i) maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad;
(ii) maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel; a
(iii) yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;
(c) maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.
(2) Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.
(3) Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.
38 

(1) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 35, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.
(2) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.
39 

(1) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—
(a) nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol, a
(b) nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.
(2) Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.
(3) Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—
(a) meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(b) yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
(4) Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.
(5) Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.
40 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—
(a) math a maint y tail da byw;
(b) y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad;
(c) maint y nitrogen sydd ynddo; a
(d) os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.
(2) Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—
(a) math a maint y tail da byw;
(b) y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad;
(c) maint y nitrogen sydd ynddo;
(d) enw a chyfeiriad y derbynnydd; ac
(e) manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.
(3) Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.
(4) Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.
41 
Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i benderfynu maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.
42 
Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—
(a) y cnwd a heuir; a
(b) dyddiad ei hau.
43 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, o fewn un wythnos ar ôl taenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a) y rhan y taenwyd y tail organig arni;
(b) faint o dail organig a daenwyd;
(c) y dyddiad neu’r dyddiadau;
(d) y dulliau o’i daenu;
(e) y math o dail organig;
(f) cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;
(g) maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, o fewn un wythnos ar ôl taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a) dyddiad ei daenu; a
(b) maint y nitrogen a daenwyd.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80% o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—
(a) nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu yn fwy na 100 kg yr hectar;
(b) nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar; ac
(c) nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.
44 

(1) Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos ar ôl canfod y cynnyrch hwnnw.
(2) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.
45 
Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn am bum mlynedd.
46 
Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn ddal gafael ar y cofnod hwnnw am bum mlynedd.
RHAN 9
47 

(1) O leiaf bob pedair blynedd rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y cyfyngiadau mewn parthau perygl nitradau a osodwyd gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol ac, os yw’n angenrheidiol, eu diwygio.
(2) Er mwyn gwneud hyn rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y cyfyngiadau yn y Rheoliadau hyn.
(3) Wrth gynnal yr adolygiad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(a) y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio’n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy’n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill; a
(b) amodau amgylcheddol rhanbarthol.
48 

(1) Wrth gynnal yr adolygiad hwn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau cyfleoedd cynnar ac effeithiol i’r cyhoedd gyfranogi.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau digonol ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd, er mwyn galluogi’r cyhoedd i baratoi ac i gyfranogi’n effeithiol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a) yr ymgynghorir â’r cyhoedd ynghylch unrhyw gynigion, ac y rhoddir gwybodaeth berthnasol am y cynigion hynny ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau ac am y corff y dylid cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo; a
(b) bod hawl gan y cyhoedd i wneud sylwadaethau a mynegi barn pan fo’r holl opsiynau’n agored, cyn bo penderfyniadau ar y cynlluniau a’r rhaglenni wedi eu gwneud.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru nodi’r aelodau o’r cyhoedd y mae hawl ganddynt i gael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys cyrff anllywodraethol sy’n hyrwyddo diogelwch yr amgylchedd.
(5) Rhaid caniatáu amser rhesymol ar gyfer ymgynghori.
(6) Rhaid cymryd yr ymgynghori i ystyriaeth wrth gyrraedd penderfyniad.
(7) Ar ôl yr ymgynghori, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniadau a wnaed a’r rhesymau a’r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am broses cyfranogiad y cyhoedd.
RHAN 10
49 

(1) Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd ac yn agored—
(a) o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu
(b) o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb yn y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.
50 
Gorfodir y Rheoliadau hyn gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.
51 
Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 wedi eu dirymu.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
1 Hydref 2013
ATODLEN 1
Rheoliadau 6 a 39

Tabl 1
Categori Tail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau) Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)
Gwartheg
Lloi (pob categori ac eithrio lloi cig llo) hyd at 3 mis: 7 23 12.7
Buchod godro—   
 O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis: 20 95 34
O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf 40 167 69
Ar ôl y llo cyntaf a’r— cynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 litr: 64 315 142
cynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6000 a 9000 litr: 53 276 121
cynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 litr: 42 211 93
Buchod neu fustych eidion— O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis: 20 91 33
O 13 mis ymlaen ac o dan 25 mis: 26 137 43
O 25 mis ymlaen— gwartheg benyw neu fustych i’w cigydda 32 137 60
gwartheg benyw ar gyfer bridio— sy’n pwyso 500kg neu lai: 32 167 65
sy’n pwyso mwy na 500kg: 45 227 86
Teirw Nad ydynt ar gyfer bridio, ac sy’n 3 mis a throsodd 26 148 24
Bridio— o 3 mis ymlaen ac o dan 25 mis: 26 137 43
o 25 mis ymlaen: 26 132 60
Defaid
O 6 mis ymlaen hyd at 9 mis oed: 1.8 5.5 0.76
O 9 mis oed hyd at ŵyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda: 1.8 3.9 2.1
Ar ôl ŵyna neu hwrdda— yn pwyso llai na 60kg: 3.3 21 8.8
yn pwyso o 60kg i fyny: 5 33 10.0
Geifr, ceirw a cheffylau
Geifr: 3.5 41 18.8
Ceirw— bridio: 542 17.6 
eraill: 3.5 33 11.7
Ceffylau: 24 58 56



Tabl 2
Categori Tail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau) Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)
Gwartheg
Lloi cig llo: 7 23 12.7
Dofednod
Ieir a ddefnyddir i gynhyrchu wyau ar gyfer eu bwyta gan bobl— o dan 17 wythnos: 0.04 0.64 0.47
o 17 wythnos ymlaen (mewn caets): 0.12 1.13 1.0
o 17 wythnos ymlaen (nid mewn caets): 0.12 1.5 1.1
Ieir a fegir ar gyfer cig: 0.06 1.06 0.72
Ieir a fegir ar gyfer bridio— o dan 25 wythnos: 0.04 0.86 0.78
 o 25 wythnos ymlaen: 0.12 2.02 1.5
Tyrcwn— gwryw: 0.16 3.74 3.1
benyw: 0.12 2.83 2.3
Hwyaid: 0.10 2.48 2.4
Estrysiaid: 1.6 3.83 18.5
Moch
Yn pwyso o 7kg i fyny ac yn llai na 13kg: 1.3 4.1 1.3
Yn pwyso o 13kg i fyny ac yn llai na 31kg: 2 14.2 6.0
Yn pwyso o 31kg i fyny ac yn llai na 66kg— porthir â bwyd sych: 3.7 24 12.1
porthir â hylifau: 7.1 24 12.1
Yn pwyso o 66kg i fyny ac— a fwriedir i’w cigydda— porthir â bwyd sych: 5.1 33 17.9
porthir â hylifau: 10 33 17.9
hychod a fwriedir ar gyfer bridio ond nad ydynt eto wedi cael eu torllwyth cyntaf: 5.6 38 20
hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet gydag ychwanegiadau o asidau amino synthetig: 10.9 44 37
hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet heb ychwanegiadau o asidau amino synthetig: 10.9 49 37
baeddod bridio o 66 kg hyd at 150 kg: 5.1 33 17.9
baeddod bridio o 150 kg i fyny: 8.7 48 28

ATODLEN 2
Rheoliad 13


Enw Botanegol Enw Cyffredin
Cydonia oblonga Cwins
Malus domestica Afalau
Mespilus germanica Afalau tindwll
Morus spp. Mwyar Mair
Prunus armenaica Bricyll
Prunus avium Ceirios melys
Prunus cerasus Ceirios duon (coginio)
Prunus ceracifera Eirin myrobalan
Prunus domestica Eirin
Prunus domestica subsp. insititia Eirin hirion
Prunus persica Eirin gwlanog
Prunus persica var. nectarina Nectarinau
Prunus x gondouinii Ceirios y Dug
Prunus spinosa Eirin duon bach
Pyrus communis Gellyg
Pyrus pyrifolia Gellyg Asia
ATODLEN 3
Rheoliadau 17, 39 a 40
RHAN 1

Tail ac eithrio slyri Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)
Tail ac eithrio slyri o’r anifeiliaid a ganlyn— 
 gwartheg: 6 
 moch: 7 
 defaid: 7 
 hwyaid: 6.5 
 ceffylau: 7 
 geifr: 6 
Tail o ieir dodwy: 19 
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: 30 

Slyri Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg)
Gwartheg: 2.6 
Moch: 3.6 
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn hylifol)— 
 blwch hidlo: 1.5 
 wal hidlo: 2 
 hidl fecanyddol: 3 
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn solet): 4 
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn hylifol): 3.6 
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn solet): 5 
Dŵr budr: 0.5 
  
RHAN 2
1 

(1) O ran slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall, rhaid cymryd o leiaf bum sampl, pob un ohonynt yn 2 litr.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid cymryd y pum sampl allan o lestr, ac—
(a) os yw’n rhesymol ymarferol, rhaid cymysgu’r slyri’n drwyadl cyn cymryd y samplau, a
(b) rhaid cymryd pob sampl o le gwahanol.
(3) Os defnyddir tancer sydd â falf addas arni ar gyfer taenu, caniateir i’r samplau gael eu cymryd tra’n taenu, a rhaid cymryd pob sampl fesul ysbaid yn ystod y taenu.
(4) Pa un a gymerwyd y samplau fel y disgrifir yn is-baragraff (2) neu (3), rhaid arllwys y pum sampl i mewn i gynhwysydd mwy, eu troi’n drwyadl, a rhaid cymryd sampl 2 litr allan o’r cynhwysydd hwnnw ac arllwys y sampl honno i gynhwysydd glân, llai o faint.
(5) Yna, rhaid anfon y sampl 2 litr a baratowyd yn unol ag is-baragraff (4) i’w dadansoddi.
2 

(1) O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau allan o domen dail.
(2) Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.
(3) Rhaid cymryd pob un o’r is-samplau 0.5 metr, o leiaf, o wyneb y domen.
(4) Os cesglir y samplau i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â’r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i’w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn hŷn na deuddeng mis oed.
(5) Rhaid gosod yr is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy’n lân a sych.
(6) Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri’n ddarnau mân, a rhaid cymysgu’r is-samplau yn drwyadl gyda’i gilydd.
(7) Rhaid i sampl gynrychiadol, sy’n pwyso 2kg o leiaf, gael ei hanfon wedyn i’w dadansoddi.
ATODLEN 4
Rheoliadau 28 a 30


Y cnwd Y gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar)
Rêp had olew, gaeaf 30 
Merllys 50 
Bresych 100 
Porfa 80 
Sgaliwns wedi’u gaeafu 40 
Perllys 40 
Bylbiau winwns 40 


