
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 22 Hydref 2013.
2 

(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (swyddogaethau y caniateir iddynt fod (ond nad oes angen iddynt fod) yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod), ar ôl paragraff 24, mewnosoder—“
25. 
Swyddogaethau ynglŷn â chymeradwyaeth gan awdurdod lleol o dan adran 51 neu benderfyniad gan awdurdod lleol o dan adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
21 Medi 2013