
1 

(1) Enw’r Cynllun hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Daw’r Cynllun hwn i rym ar 1 Hydref 2013.
(3) Mae’r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Cynllun hwn ystyr “y Prif Gynllun” (“the Principal Scheme”) yw’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007.
2 

(1) Mae erthygl 9 (yr wybodaeth sydd i’w darparu gan y corff cymeradwyo) o’r Prif Gynllun wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 9 rhodder—“
9. 

(1) Bydd y corff cymeradwyo yn darparu—
(a) i Gomisiynydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (“CThEM”) unrhyw wybodaeth y mae arno ei hangen i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau CThEM sy’n ymwneud â chredyd treth gwaith a honno’n wybodaeth sy’n ymwneud â chymeradwyo neu wrthod cymeradwyo personau o dan y Cynllun hwn neu dynnu cymeradwyaeth y personau hynny yn ôl; a
(b) i’r Ysgrifennydd Gwladol unrhyw wybodaeth y mae ei hangen ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n ymwneud â chredyd cynhwysol a honno’n wybodaeth sy’n ymwneud â chymeradwyo neu wrthod cymeradwyo personau o dan y Cynllun hwn neu dynnu cymeradwyaeth y personau hynny yn ôl.
(2) Yn yr erthygl hon ystyr “credyd cynhwysol” yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012.”
Jeff Cuthbert
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
5 Medi 2013