
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Torfaen (Cymunedau) 2013.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2),
(a) at bob diben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn yn weithredol ar y diwrnod ar ôl diwrnod ei wneud;
(b) at bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn yn weithredol ar 1 Ebrill 2014, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
(2) Daw erthyglau 5, 6 a 10 yn weithredol—
(a) at ddiben trafodion sy’n rhagarweiniol i unrhyw etholiad i’w gynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, neu sy’n ymwneud ag etholiad o’r fath, ar 15 Hydref yn y flwyddyn cyn y diwrnod hwnnw;
(b) at bob diben arall, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr a chynghorwyr cymuned ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau ar gyfer erthyglau 5, 6 a 10.
3 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “newydd” (“new”), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “presennol” (“existing”), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r saith map a farciwyd “Map Gorchymyn Torfaen (Cymunedau) 2013”, a labelwyd yn briodol 1 i 8 er mwyn cyfeirio atynt ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o Fwrdeistref Sirol Torfaen; acos dangosir ar fap fod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, caiff ei thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
4 
Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Torfaen yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.
5 

(1) Mae’r rhannau o gymuned New Inn a ddangosir â chroeslinellau ar Fapiau 1 a 2—
(a) wedi eu trosglwyddo i gymuned Croesyceiliog;
(b) yn rhan o ward Gogledd Croesyceiliog yng nghymuned Croesyceiliog; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Gogledd Croesyceiliog.
(2) Yng nghymuned Croesyceiliog, 5 yw nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer ward Gogledd Croesyceiliog.
6 

(1) Yng nghymuned Llanyrafon—
(a) mae wardiau cymunedol presennol Gogledd Llanyrafon a De Llanyrafon wedi eu diddymu;
(b) mae wardiau cymunedol newydd Dwyrain Llanyrafon a Gorllewin Llanyrafon wedi eu creu, a ddangosir ar Fap 3 fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Ward Dwyrain Llanyrafon” a “Ward Gorllewin Llanyrafon” yn y drefn honno;
(c) mae adrannau etholiadol presennol Gogledd Llanyrafon a De Llanyrafon wedi eu diddymu;
(d) mae adran etholiadol newydd Gorllewin Llanyrafon wedi ei chreu, gan gynnwys ward gymunedol newydd Gorllewin Llanyrafon;
(e) mae adran etholiadol newydd Dwyrain Llanyrafon a Phonthir wedi ei chreu, gan gynnwys ward gymunedol newydd Dwyrain Llanyrafon a chymuned bresennol Ponthir;
(f) 1 yw nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer ward Dwyrain Llanyrafon a 3 yw’r nifer ar gyfer ward Gorllewin Llanyrafon; ac
(g) 1 yw nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer adran etholiadol Dwyrain Llanyrafon a Phonthir ac 1 yw’r nifer ar gyfer adran etholiadol Gorllewin Llanyrafon.
7 
Mae’r rhan o gymuned Abersychan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 4—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen Transh;
(b) yn rhan o ward Snatchwood yng nghymuned Pen Transh; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Snatchwood.
8 
Mae’r rhan o gymuned Cwmbrân Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Pontnewydd;
(b) yn rhan o ward Mount Pleasant yng nghymuned Pontnewydd; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Pontnewydd.
9 
Mae’r rhan o gymuned Fairwater a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 6—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cwmbrân Canolog;
(b) yn rhan o ward St Dials yng nghymuned Cwmbrân Canolog; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol St Dials.
10 

(1) Mae’r rhan o gymuned Fairwater a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 7—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Cwmbrân Uchaf; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Cwmbrân Uchaf.
(2) Yng nghymuned Cwmbrân Uchaf, mae ward gymunedol newydd Thornhill wedi ei chreu, gan gynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 8.
(3) Yng nghymuned Cwmbrân Uchaf, 1 yw nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob un o wardiau Dwyrain Cwmbrân Uchaf, Gorllewin Cwmbrân Uchaf a Thornhill.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
28 Awst 2013