
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu (Gwaddolion Addysgol) (Llanfihangel Nant Brân) (Cymru) 2013 a daw i rym ar 1 Hydref 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “asedau’r Sefydliad” (“the Foundation assets”) yw’r asedau sy’n cynrychioli’r Gwaddol ar hyn o bryd;
 ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw’r atodlen i’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “yr Esgobaeth” (“the Diocese”) yw Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, ac mae “yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol” (“the Diocesan Trust”) i’w ddehongli’n unol â hynny;
 ystyr “y Gwaddol” (“the Endowment”) yw’r gwaddol a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu;
 ystyr “y Sefydliad” (“the Foundation”) yw’r sefydliad addysgol a adwaenid fel Sefydliad Ysgol Llanfihangel Nant Brân (a adwaenid yn ddiweddarach fel Neuadd Bentref Llanfihangel Nant Brân) a sefydlwyd gan y weithred Sefydlu;
 ystyr “y weithred Sefydlu” (“the Founding deed”) yw’r weithred a wnaed ar 12 Awst 1862 rhwng (1) John Iestyn Williams Fredericks, Cecil Parsons a Thomas de Winton (2) Yr Hybarch Richard William Payne Davies a’r Parchedig William Winston;
 mae i “ysgol sefydledig” yr un ystyr a roddir i “foundation school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; ac
 mae i “ysgol wirfoddol” yr un ystyr a roddir i “voluntary school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
3 
Mae hawliau unrhyw berson sydd, neu a all ddod yn rhywun sydd, â hawl fel buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth a gododd neu a all fod wedi codi yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Dychwelyd Safleoedd 1987 mewn cysylltiad â’r tir a gynhwysir yn y Gwaddol, wedi eu diddymu drwy’r Gorchymyn hwn.
4 

(1) Mae’r Gorchymyn hwn yn penodi’r Ymddiriedolaeth Esgobaethol i fod yn Ymddiriedolwr—
(a) y Sefydliad; a
(b) asedau’r Sefydliad.
(2) Mae’r holl gronfeydd sydd, yn union cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, yn eiddo i’r Sefydliad, neu a ddelir mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y Sefydliad neu ar gyfer unrhyw berson sydd â hawl fel buddiolwr o dan ymddiriedolaeth a gododd o dan adran 1 o Ddeddf Dychwelyd Safleoedd 1987 (ac eithrio unrhyw gronfeydd a ddelir eisoes gan yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol) i’w trosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Esgobaethol, ac mae pob gweithred sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw i gael ei chyflawni gan unrhyw berson sy’n dal y cronfeydd hynny.
5 

(1) Awdurdodir yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol i werthu unrhyw eiddo rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol sy’n gynwysedig yn asedau’r Sefydliad, a rhaid iddi, hyd nes gwerthir eiddo o’r fath, ei osod a’i reoli fel arall yn unol â’r gyfraith gyffredinol sy’n gymwys i reolaeth eiddo a ddelir mewn ymddiriedolaeth at ddibenion elusennol.
(2) Rhaid i’r Ymddiriedolaeth Esgobaethol ddal asedau’r Sefydliad ar yr ymddiriedolaethau statudol unffurf, er budd ysgolion gwirfoddol neu ysgolion sefydledig yr Eglwys yng Nghymru o fewn yr Esgobaeth.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “ymddiriedolaethau statudol unffurf” (“uniform statutory trusts”) yw’r ymddiriedolaethau a nodir yn yr Atodlen (sef yr ymddiriedolaethau statudol unffurf a nodir yn Atodlen 36 i Ddeddf Addysg 1996 fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag asedau’r Sefydliad).
6 
Caniateir cyfuno asedau’r Sefydliad ag unrhyw waddol presennol a ddelir at y dibenion a bennir yn yr Atodlen.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
22 Awst 2013
YR ATODLEN
erthygl 5(3)
1 
Caiff yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol, ar ôl talu unrhyw dreuliau a achosir iddi mewn cysylltiad â gweinyddu’r Sefydliad, ddefnyddio cyfalaf ac incwm asedau’r Sefydliad at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—
(a) ar gyfer prynu, neu tuag at brynu, safle ar gyfer, neu adeiladu, gwella neu ehangu mangre unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth;
(b) ar gyfer cynnal unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth;
(c) ar gyfer prynu, neu tuag at brynu, safle ar gyfer, neu adeiladu, gwella neu ehangu mangre unrhyw dŷ athro neu athrawes ar gyfer ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth; ac
(d) ar gyfer cynnal unrhyw dŷ athro neu athrawes ar gyfer ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth.
2 
Caiff yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol hefyd, ar ôl talu unrhyw dreuliau a achosir iddi mewn cysylltiad â gweinyddu’r Sefydliad, ddefnyddio incwm asedau’r Sefydliad at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—
(a) ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, cyngor, arweiniad ac adnoddau (gan gynnwys deunyddiau) mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud â rheolaeth unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth, neu’r addysg a ddarperir mewn unrhyw ysgol o’r fath;
(b) darparu gwasanaethau ar gyfer cynnal unrhyw arolygiad o unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth sy’n ofynnol o dan Ran 1 o Ddeddf Addysg 2005; ac
(c) talu’r gost o gyflogi staff neu eu cymryd ymlaen mewn cysylltiad ag—
(i) defnyddio incwm asedau’r Sefydliad ar gyfer y naill neu’r llall o’r dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b) uchod,
(ii) defnyddio cyfalaf ac incwm asedau’r Sefydliad ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod.
3 
Ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw ysgol o’r math y cyfeirir ato yn erthygl 5(2).