
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 20 Medi 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr hyfforddiant” (“the training”) yw’r hyfforddiant a nodwyd yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant ar gyfer clercod cyrff llywodraethu yng Nghymru” sy’n nodi at ddiben adran 24 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 yr hyfforddiant a’r safonau rhagnodedig;
 ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005;
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010;
 ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012 ; ac
 ystyr “swyddog cymorth i lywodraethwyr” (“governor support officer”) yw person a gyflogir gan awdurdod lleol yn unswydd neu yn bennaf at y diben o ddarparu cymorth a chyngor i’r awdurdod lleol, i benaethiaid ac i lywodraethwyr.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
(3) At ddiben y Rheoliadau hyn mae’r cwestiwn a yw clerc wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol ai peidio i’w benderfynu gan y person a ddarparodd yr hyfforddiant i’r clerc hwnnw.
(4) At ddibenion Rheoliadau 2012, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “llywodraethwyr” i’w darllen fel cyfeiriadau at “corff llywodraethu cysgodol”, “llywodraethwr cysgodol” a “llywodraethwyr cysgodol”.
3 

(1) At ddiben y rheoliad hwn, mae clerc i gorff llywodraethu—
(a) yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 42 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 43 o Reoliadau 2005; neu
(b) yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 50 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 51 o Reoliadau 2010.
(2) Os yw corff llywodraethu yn gwneud cais i’r awdurdod lleol i ddarparu person i’w benodi yn glerc, rhaid i’r awdurdod lleol hwnnw ddarparu person addas i’w benodi cyn pen 16 wythnos ar ôl i’r awdurdod lleol gael y cais hwnnw.
(3) Mae person addas—
(a) yn berson sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol; neu
(b) yn swyddog cymorth i lywodraethwyr.
(4) Caiff yr awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person i weithredu fel clerc i’r corff llywodraethu.
(5) Pan fo awdurdod lleol yn arfer y pŵer i godi ffi o dan baragraff (4) ni chaniateir i’r ffi a godir fod yn uwch na’r gost o ddarparu’r clerc.
4 

(1) At ddiben y rheoliad hwn, mae clerc i gorff llywodraethu—
(a) yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 42 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 43 o Reoliadau 2005;
(b) yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 58(1) i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 58(5) mewn cysylltiad â phwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliadau 55 i 57 o Reoliadau 2005;
(c) yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 50 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 51 o Reoliadau 2010;
(d) yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 67(1) i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 67(5) mewn cysylltiad â phwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliadau 64 i 66 o Reoliadau 2010; neu
(e) yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 2012.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc gwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol cyn pen pa un bynnag o’r canlynol yw’r diweddaraf—
(a) blwyddyn o’i benodi yn glerc; neu
(b) blwyddyn ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i—
(a) swyddog cymorth i lywodraethwyr;
(b) person sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol;
(c) llywodraethwr a benodwyd yn glerc yn unol â rheoliad 42 o Reoliadau 2005, rheoliad 50 o Reoliadau 2010 neu reoliad 10(3) o Reoliadau 2012.
5 

(1) Os nad yw clerc i gorff llywodraethu yn cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol yn unol â’r Rheoliadau hyn, yna rhaid i’r corff llywodraethu symud y clerc o’i swydd.
(2) Ni chaiff person sydd wedi ei symud o’i swydd yn unol â pharagraff (1) gael ei benodi yn glerc i gorff llywodraethu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Awst 2013