
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu a Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2013.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;”.
(3) Yn rheoliad 12 (swm y cymorth ariannol)—
(a) ym mharagraff (6)(b) ar ôl “credyd treth plant” mewnosoder—“, elfen y plentyn o gredyd cynhwysol”;
(b) ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(11) Yn y rheoliad hwn ystyr “elfen y plentyn o gredyd cynhwysol” yw swm sydd wedi ei gynnwys mewn dyfarniad credyd cynhwysol o dan adran 10 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adran honno.”
(4) Yn rheoliad 17(7)(c) (adolygu cymorth ariannol) ar ôl “gymwys i gael” mewnosoder—“credyd cynhwysol,”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;”.
(3) Yn rheoliad 12(10)(b)(ii) (adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig) ar ôl “yn cael” mewnosoder—“credyd cynhwysol,”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Awst 2013