
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013 a daw i rym ar 6 Medi 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012; ac
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996.
2 

(1) Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod rhiant C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013.
(2) Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
15 Awst 2013