
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) (Cymru) 2013 a daw i rym ar 2 Tachwedd 2013, ac mae’n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004;
 ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013; ac
 ystyr “tramgwydd traffig ffyrdd” (“road traffic contravention”) o ran Cymru, yw unrhyw un o’r canlynol:
(a) tramgwydd parcio fel y’i disgrifir ym mharagraff 4, Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004;
(b) tramgwydd lôn fysiau fel y’i disgrifir yn Rhan 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004; neu
(c) tramgwydd traffig symudol fel y’i disgrifir yn Rhan 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
2 
Y canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol ar gyfer Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf 2004, i awdurdodau gorfodi wrth osod lefelau taliadau ar gyfer tramgwyddau traffig ffyrdd yw’r rhai hynny a nodir yn yr Atodlen.
3 
Mae Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) (Cymru) 2008 drwy hyn wedi ei ddirymu.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Awst 2013
YR ATODLEN
Erthygl 2
1 

(1) Rhaid gosod taliadau cosb ar gyfer tramgwyddau traffig ffyrdd—
(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (2) yn un o’r bandiau yn Nhabl 1; a
(b) ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (3) yn y band a ddewisir ar gyfer tramgwyddau lefel uwch.
(2) Rhaid gosod y lefel disgownt ar gyfer taliad cosb a delir yn gynnar (hynny yw o fewn 21 o ddiwrnodau yn achos taliadau cosb a osodwyd ar sail cofnod a gynhyrchwyd gan ddyfais a gymeradwyir o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol a 14 o ddiwrnodau ym mhob achos arall)—
(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (4);
(b) ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (5),
yn y band sy’n pennu lefelau’r taliadau cosb.
(3) Rhaid gosod lefel gordal taliad o dâl cosb wedi i dystysgrif codi tâl gael ei dyroddi—
(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch ar y lefel a bennir yng ngholofn (6);
(b) ar gyfer pob tramgwydd arall ar y lefel a bennir yng ngholofn (7),
yn y band sy’n pennu lefelau’r taliadau cosb.

Tabl 1
(1)Band (2)Tâl cosb lefel uwch (3)Tâl cosb lefel is (4)Tâl cosb lefel uwch a delir yn gynnar (5)Tâl cosb lefel is a delir yn gynnar (6)Tâl cosb lefel uwch a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl (7)Tâl cosb lefel is a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl
1. £60 £40 £30 £20 £90 £60
2. £70 £50 £35 £25 £105 £75
(4) Caiff awdurdod gorfodi osod taliadau cosb yn unol â gwahanol fandiau yn y tabl mewn gwahanol rannau o’i ardal, cyn belled â bod pob taliad ym mhob rhan yn cael ei osod yn unol â’r un band.
(5) “Tramgwyddau lefel uwch” yw’r rhai hynny a restrir yn yr Atodiad.
2 
Y rhai hynny a geir yn Nhabl 2 yw’r taliadau y mae’n rhaid eu codi am symud ymaith, storio a gwaredu cerbydau a ganfyddir mewn ardal orfodi sifil.

Tabl 2
(1)Eitem (2)Math o dâl (3)Swm y tâl
1. Y tâl am symud cerbyd ymaith £105.00
2 Y tâl am storio cerbyd £12 ar gyfer pob diwrnod, neu ran o ddiwrnod, pan fydd y cerbyd yn cael ei gadw
3. Y tâl am waredu cerbyd £50.00
3 
Rhaid i’r tâl sy’n daladwy o dan reoliad 14(2)(b) o’r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol ar gyfer rhyddhau cerbyd o afael dyfais i’w rwystro rhag symud fod yn £40.
4 
Nid oes dim yn y canllawiau hyn yn rhagfarnu nac yn effeithio ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 8(3) o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i ganiatáu i awdurdod gorfodi i wyro oddi wrth y canllawiau hyn.
Atodiad
1 
Tramgwydd yn ymwneud â chyflawni trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(b) (cyfyngiadau aros a llwytho) o Atodlen 7 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”).
2 
Tramgwydd yn ymwneud â gadael y cerbyd mewn man parcio ar-y-stryd ac eithrio fel a awdurdodir gan unrhyw orchymyn yn ymwneud â’r man parcio yn unrhyw un o’r achosion a ganlyn, neu oddi tano—
(a) heb fod yn dangos hawlen, taleb neu docyn talu ac arddangos;
(b) mewn man lle mae parcio wedi cael ei atal;
(c) pan fo’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i’w gwerthu;
(d) pan nad yw’r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.
3 
Tramgwyddo’r gwaharddiad a osodir gan adran 85 (parcio dwbl etc.) o Ddeddf 2004.
4 
Tramgwyddo’r gwaharddiad a osodir gan adran 86 (troetffyrdd a ostyngwyd) o Ddeddf 2004.
5 
Tramgwydd sy’n cynnwys cyflawni trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(h) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (troseddau sy’n ymwneud â llwybrau beiciau).
6 
Tramgwydd sy’n cynnwys trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(g) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio Cerbydau Nwyddau Trymion ar leiniau ymyl, lleiniau canol neu droetffyrdd).
7 
Tramgwydd sy’n cynnwys trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) (peri i gerbydau aros ar groesfannau i gerddwyr neu gerllaw iddynt) neu 4(2)(i)(i) (llinellau igam-ogam gerllaw croesfannau) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
8 
Tramgwydd sy’n cynnwys trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(i)(ii) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (marciau safleoedd bysiau neu arosfannau bysiau).
9 
Tramgwydd sy’n ymwneud â throsedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(e) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio mewn mannau llwytho).
10 
Tramgwydd sy’n ymwneud â throsedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 mewn perthynas â man parcio oddi-ar-y-stryd ac yn cynnwys unrhyw un neu rai o’r canlynol pan fo gorchymyn yn eu gwahardd mewn perthynas â’r man parcio—
(a) defnyddio cerbyd mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i’w gwerthu;
(b) parcio mewn man cyfyngedig;
(c) parcio mewn cilfan hawlenni heb arddangos hawlen;
(d) parcio mewn man parcio i berson anabl heb arddangos yn gywir fathodyn dilys person anabl;
(e) parcio cerbyd mewn man pan nad yw’r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.
11 
Tramgwydd lôn fysiau fel y’i disgrifir yn Rhan 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
12 
Tramgwydd traffig symudol fel y’i disgrifir yn Rhan 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.