
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr a Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Awst 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 11.
3 
Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—“
 ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;
 ystyr “cynllun gostyniadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;.”.
4 
Yn rheoliad 29(3), ar ôl “2002” mewnosoder—“
 neu fod ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau gofal plant)”.
5 
Yn rheoliad 32(6)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (f) yn lle “.” rhodder “; ac”; ac
(c) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(ff) yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—
(i) unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii) unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).”.
6 
Yn rheoliad 42, yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw’r myfyriwr cymwys hwnnw—
(a) yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(b) os trinnir ef fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno; neu
(c) os yw’n atebol, neu os trinnir ef fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad â’r llety y mae’n ei feddiannu fel ei gartref o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.”.
7 
Yn rheoliad 77(1)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “neu”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) yn lle “,” rhodder “;”;
(c) ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—“
(iv) i gredyd cynhwysol; neu
(v) i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;”.
8 
Yn rheoliad 93(5)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—“
(iv) i gredyd cynhwysol; neu
(v) i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;”.
9 
Yn rheoliad 98(3), ar ôl “2002” mewnosoder—“
 neu fod ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau gofal plant)”.
10 
Yn rheoliad 101(6)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (f) yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(ff) yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—
(i) unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii) unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).”.
11 
Ym mharagraff 5(7)(a) o Atodlen 5 hepgorer y geiriau “, yn preswylio fel arfer” bob tro y maent yn digwydd.
12 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 13 i 24.
13 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y man priodol, mewnosoder—“
 ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;
 ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;; a”; a
(b) yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur, ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
14 
Yn rheoliad 32(3), ar ôl “2002” mewnosoder—“
 neu fod ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau gofal plant)”.
15 
Yn rheoliad 35(6) —
(a) ar ddiwedd is-baragraff (g) hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (h) yn lle “.” rhodder “; ac”; ac
(c) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(i) yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—
(i) unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii) unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).”.
16 
Yn rheoliad 45, yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw’r myfyriwr cymwys hwnnw—
(a) yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(b) os trinnir ef fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno; neu
(c) os yw’n atebol, neu os trinnir ef fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad â’r llety y mae’n ei feddiannu fel ei gartref o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.”.
17 
Yn rheoliad 56—
(a) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “28(5)” rhodder “28(7)”; a
(b) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “28(5)” rhodder “28(7)”.
18 
Yn rheoliad 63(j)(i) yn lle “28(5)” rhodder “28(7)”.
19 
Yn rheoliad 81(1)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “neu”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) yn lle “,” mewnosoder “;”;
(c) ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—“
(iv) i gredyd cynhwysol; neu
(v) i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;”.
20 
Yn rheoliad 97(5)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii) hepgorer “neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—“
(iv) i gredyd cynhwysol; neu
(v) i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;”.
21 
Yn rheoliad 102(3), ar ôl “2002” mewnosoder—“
 neu fod ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau gofal plant)”.
22 
Yn rheoliad 105(6)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (g) hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (h) yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(i) yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—
(i) unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii) unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).”.
23 
Yn Rhan 2 o Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b) rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud;”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b) rhodder—“
(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud;
yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff (5)(3)(c) rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na fo cais am loches wedi ei wneud;”.
24 
Ym mharagraff 5(7)(a) o Atodlen 5 hepgorer y geiriau “, yn preswylio fel arfer” bob tro y maent yn digwydd.
25 
Mae Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 26 i 27.
26 
Yn rheoliad 28(2)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (g) hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (h) yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(i) yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad credyd cynhwysol—
(i) unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii) unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).”.
27 
Ym mharagraff 4(6)(a) o Atodlen 2 hepgorer y geiriau “, yn preswylio fel arfer” bob tro y maent yn digwydd.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
1 Awst 2013