
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 7) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw’r ardal ddaearyddol honno yng Nghymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;
 ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2 

(1) Daw darpariaethau Mesur 2010 a bennir ym mharagraff (2), i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw:
(a) adran 58(10) (dosbarthu swyddogaethau ac atgyfeiriadau awdurdodau lleol); a
(b) adran 59(2) (cyllid a gwariant).
3 

(1) Daw darpariaethau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a bennir ym mharagraff (2), i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym ar 31 Gorffennaf 2013 mewn perthynas â’r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—
(a) Blaenau Gwent;
(b) Caerffili;
(c) Sir y Fflint;
(d) Sir Fynwy; ac
(e) Torfaen.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd);
(b) adran 58 (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd) ac eithrio is-adran (6)(b), (c) a (d);
(c) adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd);
(d) adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd);
(e) adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(f) adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(g) adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd);
(h) adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
18 Gorffennaf 2013