
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir y Fflint) 2013.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2013 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2013
YR ATODLEN
Erthygl 2
Sir y Fflint yn gyfan ac eithrio—
(a) Yr A55 i gyd, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael, o fewn y sir;
(b) y darn hwnnw o’r A55, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael, o’r ffin sirol â Swydd Gaer i Gyfnewidfa Drome Corner yr A548;
(c) y darn hwnnw o ffordd ddeuol yr A494, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael, o Gyfnewidfa Drome Corner yr A548 i gyffordd yr A55 yng Nghyfnewidfa Ewloe.