
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Powys (Diddymu) 2013 a daw i rym ar 1 Awst 2013.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
3 
Ar 1 Awst 2013 mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Powys (“Coleg Powys Further Education Corporation”) wedi ei diddymu a throsglwyddir ei heiddo, ei hawliau a’i rhwymedigaethau yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Castell-nedd Port Talbot (“Neath Port Talbot College Further Education Corporation”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
4 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Powys (“Coleg Powys Further Education Corporation”) yn union cyn 1 Awst 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy’n gyflogedig fel hynny;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2013;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Powys (“Coleg Powys Further Education Corporation”); a
(d) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Castell-nedd Port Talbot (“Neath Port Talbot College Further Education Corporation”).
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau,
un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2013