
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) (Cymru) 2013, a daw i rym ar 10 Gorffennaf 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gytundeb y mae Deddf Cartrefi Symudol 1983yn gymwys iddo, cyn dyfodiad i rym adran 318 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008.
2 

(1) Mae Deddf Cartrefi Symudol 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn
(2) Yn adran 1(8A) ar ôl “England” rhodder “and Wales”
(3) Yn adran 2(6) ar ôl “England” rhodder “and Wales”
Jeff Cuthbert
Y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2013