
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 2 Awst 2013.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y Gyfarwyddeb (“theDirective”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned; a
(b) ystyr “y GIP” (“thePHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.
(3) Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’w cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran llwythi o’r canlynol—
(a) planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i’r Gyfarwyddeb, a
(b) hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,
a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy’n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o’r GIP.
(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—
(a) y ffi a bennir—
(i) yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu
(ii) yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno ac sy’n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno; a
(b) y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.
(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth hwnnw yw—
(a) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b) y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.
3 

(1) Mae’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â’r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, sy’n ymwneud â chais am y canlynol—
(a) ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o’r Rheoliadau Tatws Hadyd;
(b) awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o’r Rheoliadau hynny.
(2) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.
(3) Rhaid talu’r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gyflawni’r swyddogaeth honno o dan y Rheoliadau Tatws Hadyd ar ran Gweinidogion Cymru.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau Tatws Hadyd” (“the Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006.
4 

(1) Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o’r GIP.
(2) Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r math hwnnw o gais neu arolygiad.
5 

(1) Rhaid talu’r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) cais am awdurdod; neu
(b) sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdod.
(2) Y ffi yw £38.05 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £76.10 am bob ymweliad.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod” (“authority”“) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 neu erthygl 29 o’r GIP.
6 

(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“theDecision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., mewn cysylltiad â’r Aifft.
7 
Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012 wedi eu dirymu.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2013
ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)


Colofn 1Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall Colofn 2Swm Colofn 3Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) Colofn 4Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau hyd at 10,000 o ran nifer 49.66 74.50
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny 1.98, hyd at uchafswm o 397.31 2.97, hyd at uchafswm o 595.97
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau) hyd at 1,000 o ran nifer 49.66 74.50
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 1.22, hyd at uchafswm o 397.31 1.83, hyd at uchafswm o 595.97
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu hyd at 200 kg 49.66 74.50
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.45, hyd at uchafswm o 397.31 0.68, hyd at uchafswm o 595.97
Hadau, meithriniadau meinwe hyd at 100 kg 21.28 31.93
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.49, hyd at uchafswm o 397.31 0.73, hyd at uchafswm o 595.97
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon hyd at 5,000 o ran nifer 49.66 74.50
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 0.49, hyd at uchafswm o 397.31 0.73, hyd at uchafswm o 595.97
Blodau wedi’u torri hyd at 20,000 o ran nifer 49.66 74.50
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny 0.38, hyd at uchafswm o 397.31 0.57, hyd at uchafswm o 595.97
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri) hyd at 100 kg 49.66 74.50
am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny 4.94, hyd at uchafswm o 397.31 7.41, hyd at uchafswm o 595.97
Coed Nadolig wedi’u torri hyd at 1,000 o ran nifer 49.66 74.50
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 4.94, hyd at uchafswm o 397.31 7.41, hyd at uchafswm o 595.97
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog hyd at 100 kg 49.66 74.50
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 4.94, hyd at uchafswm o 397.31 7.41, hyd at uchafswm o 595.97
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) hyd at 25,000 kg 49.66 74.50
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.98 2.97
Cloron tatws hyd at 25,000 kg 148.99 (am bob lot) 223.49 (am bob lot)
am bob 25,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 148.99 (am bob lot) 223.49 (am bob lot)
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl hyd at 25,000 kg 49.66 74.50
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.89, hyd at uchafswm o 397.31 2.97, hyd at uchafswm o 595.97
Grawn hyd at 25,000 kg 49.66 74.50
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.98, hyd at uchafswm o 1986.56 2.97, hyd at uchafswm o 2979.84
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd am bob llwyth 49.66 74.50
ATODLEN 2
Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)


Colofn 1Genws Colofn 2Swm Colofn 3Gwlad tarddiad Colofn 4Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) Colofn 5Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Blodau wedi’u torri
Aster hyd at 20,000 o ran nifer Zimbabwe 37.24 55.87
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny Zimbabwe 1.48, hyd at uchafswm o 297.98 2.22, hyd at uchafswm o 446.97
Dianthus hyd at 20,000 o ran nifer Colombia 2.48 3.72
Ecuador 4.96 7.45
Kenya 2.48 3.72
Twrci 12.42 18.62
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.02, hyd at uchafswm o 19.87 0.03, hyd at uchafswm o 29.80
Ecuador 0.04, hyd at uchafswm o 39.72 0.07, hyd at uchafswm o 59.58
Kenya 0.02, hyd at uchafswm o 19.87 0.03, hyd at uchafswm o 29.80
Twrci 0.10, hyd at uchafswm o 99.36 0.16, hyd at uchafswm o 149.04
Rosa hyd at 20,000 o ran nifer Colombia 1.43 2.14
Ecuador 1.43 2.14
Ethiopia 4.96 7.41
Kenya 2.48 3.72
Tanzania 4.96 7.42
Uganda 12.42 18.62
Zambia 12.42 18.62
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.01, hyd at uchafswm o 11.89 0.01, hyd at uchafswm o 17.84
Ecuador 0.01, hyd at uchafswm o 11.89 0.01, hyd at uchafswm o 17.84
Ethiopia 0.04, hyd at uchafswm o 39.72 0.06, hyd at uchafswm o 59.58
Kenya 0.02, hyd at uchafswm o 19.87 0.03, hyd at uchafswm o 29.80
Tanzania 0.04, hyd at uchafswm o 39.72 0.07, hyd at uchafswm o 59.58
Uganda 0.07, hyd at uchafswm o 99.36 0.10, hyd at uchafswm o 149.04
Zambia 0.07, hyd at uchafswm o 99.36 0.10, hyd at uchafswm o 149.04
Canghennau gyda deiliant
Phoenix hyd at 100 kg Costa Rica 17.35 26.03
am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny Costa Rica 1.70, hyd at uchafswm o 139.05 2.56, hyd at uchafswm o 208.57
Ffrwythau
Citrus hyd at 25,000 kg Yr Aifft 7.45 11.17
Israel 4.96 7.41
Mecsico 7.45 11.17
Moroco 2.48 3.72
Periw 12.42 18.62
Tunisia 12.42 18.62
Twrci 1.46 2.19
Uruguay 7.45 11.17
UDA 7.45 11.17
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Yr Aifft 0.28 0.42
Israel 0.21 0.31
Mecsico 0.28 0.42
Moroco 0.07 0.10
Periw 0.49 0.73
Tunisia 0.49 0.73
Twrci 0.03 0.05
Uruguay 0.28 0.42
UDA 0.28 0.42
Malus hyd at 25,000 kg Ariannin 4.96 7.41
Brasil 12.42 18.62
Chile 2.47 3.70
Seland Newydd 4.96 7.41
De Affrica 2.47 3.70
UDA 17.38 26.07
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.21 0.31
Brasil 0.49 0.74
Chile 0.07 0.10
Seland Newydd 0.21 0.31
De Affrica 0.07 0.10
UDA 0.69 1.03
Passiflora hyd at 25,000 kg Colombia 4.94 7.41
Kenya 4.94 7.41
De Affrica 24.83 37.25
Zimbabwe 24.83 37.25
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.17 0.26
Kenya 0.17 0.26
De Affrica 0.97 1.46
Zimbabwe 0.97 1.46
Prunus hyd at 25,000 kg Ariannin 24.83 37.25
Chile 4.96 7.41
Moroco 24.83 37.25
De Affrica 4.96 7.41
Twrci 7.44 11.17
UDA 7.44 11.17
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.97 1.46
Chile 0.17 0.26
Moroco 0.97 1.46
De Affrica 0.17 0.26
Twrci 0.29 0.44
UDA 0.29 0.44
Pyrus hyd at 25,000 kg Ariannin 4.96 7.41
Chile 12.42 18.62
Tsieina 24.83 37.25
De Affrica 4.96 7.41
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.17 0.26
Chile 0.49 0.73
Tsieina 0.97 1.46
De Affrica 0.17 0.26
Vaccinium hyd at 25,000 kg Ariannin 11.74 17.61
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.47 0.71
Llysiau    
Momordica hyd at 25,000 kg Surinam 24.83 37.25
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Surinam 0.97 1.46
Solanum melongena hyd at 25,000 kg Kenya 4.96 7.41
Twrci 4.96 7.41
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Kenya 0.17 0.26
Twrci 0.17 0.26
ATODLEN 3
Rheoliad 2(2)(b)


Colofn 1Gwiriad Colofn 2Swm Colofn 3Ffi (£)
Dogfennol am bob llwyth 4.31
Adnabod am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwythcynhwysydd o faint cymharol 4.31
am bob llwyth sy’n fwy na’r maint uchod 8.62
ATODLEN 4
Rheoliad 3


Colofn 1Swyddogaeth Colofn 2Ffi (£) Colofn 3Isafswm ffi (£)
Arolygu cnydau sy’n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau
Ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol 129.84* d/g
Ardystio feltatws hadydsylfaenol addosberthirfel: super elite 1, super elite 2 neu super elite 3 64.92 129.84
elite 1, elite 2 neu elite 3 64.92 129.84
A 61.71 123.43
Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig 56.10 112.20
Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd 129.84* d/g
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad 19.24 38.47
Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol 129.84* d/g

ATODLEN 5
Rheoliad 4(2)


Colofn 1Eitem Colofn 2Math o gais neu arolygiad Colofn 3Ffi (£)
1 Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy’n dod o fewn eitem 2 neu 3 793.03
2 Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi 572.02
3 Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy’n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau 793.03, plws 31.20 am bob math o beth dros ben y 5
4 Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol 260.01
5 Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol 31.20
6 Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded. 42.75 am bob awr neu ran o awr