
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2013.
2 

(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Cymraeg erthygl 3(3), yn lle “gronynnau” rhodder “grawn”.
(3) Yn lle Atodlen 3 rhodder—“
ATODLEN 3
Erthyglau 3 a 5


Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau Ffi (£) Ffi(allforiwr bach) (£)
(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw grawn:
arolygiad a, phan fo angen, archwiliad mewn labordy 46.61 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 93.22 23.31 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 46.62
archwiliad mewn labordy yn unig 26.43 13.22
dyroddi tystysgrif pan nad yw arolygiad neu archwiliad mewn labordy yn ofynnol 8.21 4.11
(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o rawn:
monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3), a phan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig 51.47 25.73”
(4) Yn lle Atodlen 4 rhodder—“
ATODLEN 4
Erthygl 5


Gwasanaeth Ffi (£) Ffi (allforiwr bach) (£)
Gwasanaeth cyn-allforio 37.46 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 74.92 18.73 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 37.46”
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

3 Gorffennaf 2013