
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2013, deuant i rym ar 4 Gorffennaf 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae’r Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ym mharagraff 1 o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad a ganlyn —“
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy’n tarddu o Tsieina ac sy’n Benderfyniad sy’n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/287/EU;”.
(3) Yn lle paragraff (1) o reoliad 3 (cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig gyntaf ar y farchnad), rhodder y canlynol —“
3. 

(1) Gwaherddir rhoi unrhyw gynnyrch penodedig ar y farchnad oni bai —
(a) mewn perthynas â’r cynnyrch —
(i) bod y gofyniad a gynhwysir yn Erthygl 3.2 o Benderfyniad y Comisiwn, mewn perthynas â chynhyrchion sy’n cynnwys reis, wedi ei gyfansoddi ohono neu wedi ei gynhyrchu ohono, i drosglwyddo dogfen mynediad gyffredin neu ddogfen mynediad milfeddygol gyffredin, fel y bo’n briodol, gyda’r rhannau priodol wedi eu cwblhau, wedi ei ddigoni, a
(ii) y cydymffurfiwyd â’r amodau a bennir yn Erthygl 4 o Benderfyniad y Comisiwn; a
(b) pan fo’r llwyth sy’n cynnwys y cynnyrch penodedig wedi ei rannu yn dilyn rheolaeth swyddogol, bod copi dilysedig o’r dystysgrif iechyd a’r adroddiad dadansoddiadol yn dod gyda phob rhan o’r llwyth rhanedig.”.
(4) Yn lle rheoliad 8 (darpariaeth drosiannol) rhodder y canlynol —“
8. 

(1) Yn y rheoliad hwn, mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chynhyrchion penodedig ac eithrio’r rhai hynny sy’n cyfateb i Godau CN 1905 90 60, 1905 90 90 neu 2103 90 90, ac mae paragraff (3) yn gymwys i gynhyrchion penodedig sy’n cyfateb i’r Codau CN hynny yn unig.
(2) Hyd 5 Awst 2013, nid yw’r gwaharddiad yn rheoliad 3(1) yn gymwys mewn perthynas â chynnyrch penodedig, ar yr amod bod —
(a) y cynnyrch wedi cyrraedd yr UE cyn 4 Gorffennaf 2013, a
(b) na fyddai rhoi’r cynnyrch ar y farchnad wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn sefyll yn union cyn i Reoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2013 ddod i rym.
(3) Nid yw’r gwaharddiad yn rheoliad 3(1) yn gymwys hyd 5 Hydref 2013.”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2013