
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2013.
2 
1 Medi 2013 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau ym Mhennod 2 o Ran 1 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 ddod i rym, i’r graddau y maent yn ymwneud ag ysgolion a sefydliadau addysg bellach.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2013