
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 a deuant i rym ar 23 Mehefin 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yr amodau cwblhau Cymreig amgen yw’r amodau a bennir yn rheoliad 3 neu 4.
3 
Dyma’r amodau—
(a) bod person (“X”) yn gweithio fel person hunangyflogedig mewn cysylltiad â fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig; a
(b) bod X yn bodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith hwnnw at y diben o ddyroddi tystysgrif brentisiaeth.
4 

(1) Dyma’r amodau—
(a) bod person (“Y”) wedi ymrwymo i gytundeb prentisiaeth mewn cysylltiad â fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig;
(b) bod Y wedi dechrau ar gwrs hyfforddi ar gyfer y cymhwyster cymwyseddau a nodir yn y fframwaith hwnnw;
(c) bod Y yn gweithio o dan y cytundeb prentisiaeth drwy gydol cyfnod cyntaf y cwrs;
(d) bod Y wedi cael ei ddiswyddo o ganlyniad i ddileu swydd cyn cwblhau’r cwrs;
(e) bod Y wedi cwblhau’r cwrs cyn pen 6 mis ar ôl dyddiad diswyddiad o’r fath;
(f) bod Y yn gweithio neu yn mynychu canolfan hyfforddiant galwedigaethol gydnabyddedig, mewn cysylltiad â’r fframwaith hwnnw drwy gydol ail gyfnod y cwrs; ac
(g) bod Y yn bodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith hwnnw at y diben o ddyroddi tystysgrif brentisiaeth.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) mae’r cyfeiriad at gyfnod cyntaf y cwrs yn gyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y dechreuodd y cwrs hyfforddi y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) ac sy’n dod i ben ar y dyddiad diswyddo;
(b) mae’r cyfeiriad at ail gyfnod y cwrs yn gyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau drannoeth y dyddiad diswyddo ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y cwblhawyd y cwrs hyfforddi.
Jef Cuthbert
O dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2013