
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013 a daw i rym yn unol ag erthyglau 2 a 3.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
2 
Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar 4 Gorffennaf 2013—
(a) adran 1 (trosolwg);
(b) adran 8 (sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer), i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cod ymarfer archwilio, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;
(c) adran 10 (cod ymarfer archwilio);
(d) adran 12 (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori);
(e) adran 13 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud ag aelodau sy’n gyflogeion;
(f) adran 14 (pwerau);
(g) adran 15 (effeithlonrwydd);
(h) adran 16 (y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol);
(i) adran 17(2) a (3) (SAC i fonitro a darparu cyngor) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;
(j) adran 18 (dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cynllun dirprwyo;
(k) adran 20 (gwariant) dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol 2014-2015;
(l) adran 24 (cynllun ar gyfer codi ffioedd);
(m) adran 25 (cynllun blynyddol);
(n) adran 26 (cynllun blynyddol: y Cynulliad Cenedlaethol);
(o) adran 27 (cynllun blynyddol: effaith);
(p) adran 28 (swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol);
(q) adran 29(1), (2), (3)(b) ac (c) a (4) (indemnio);
(r) adran 31 (cyfarwyddiadau);
(s) adran 32 (dehongli);
(t) adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc);
(u) yn Atodlen 1 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru)—
(i) paragraff 1 (aelodaeth) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(ii) paragraff 2 (penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(iii) paragraff 3 (statws) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(iv) paragraff 4 (penodi aelodau anweithredol);
(v) paragraff 5 (penodi cadeirydd ar SAC);
(vi) paragraff 6 (cyfnod penodi ac ailbenodi);
(vii) paragraff 7 (trefniadau talu cydnabyddiaeth);
(viii) paragraff 8 (telerau penodi eraill);
(ix) paragraff 9 (ymgynghori);
(x) paragraffau 10, 11 a 12 (dod â phenodiadau i ben);
(xi) paragraff 13 (talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd Cyffredinol);
(xii) paragraff 26 (anghymhwyso fel aelod o SAC neu gyflogai iddi) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(xiii) paragraff 27 (cyffredinol);
(xiv) paragraff 28 (cworwm ar gyfer cyfarfodydd SAC);
(xv) paragraff 29(1) (pwyllgorau);
(xvi) paragraff 30 (cynnal pleidleisiau);
(xvii) paragraff 31 (dilysrwydd); a
(xviii) paragraff 32 (dirprwyo swyddogaethau) ac eithrio mewn cysylltiad â’r aelodau sy’n gyflogeion a chyflogeion;
(v) yn Atodlen 2 (y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC)—
(i) paragraff 1 (paratoi a chymeradwyo etc);
(ii) paragraff 2 (cynnwys); a
(iii) paragraffau 5 i 14 (person arall, dros dro, yn arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol);
(w) yn Atodlen 3 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed)—
(i) paragraff 4 (rheolau gweithdrefnol SAC cyn i reolau gael eu gwneud o dan baragraff 27 o Atodlen 1); a
(ii) paragraff 13 (indemnio); ac
(x) paragraff 79(2) o Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 12 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
3 

(1) Daw pob un o ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2014 i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn yn unol ag erthygl 2.
(2) Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2014.
4 

(1) Mewn perthynas â’r cyfnod pan fo penodiad archwilydd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn cael ei barhau gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf, mae’r canlynol yn cael effaith fel petaent heb eu diwygio gan y Gorchymyn hwn—
(a) y diffiniad o “the auditor” yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997;
(b) rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002;
(c) rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002;
(d) rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002; ac
(e) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005.
(2) Mae penodiad unrhyw berson fel archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y gwnaed y penodiad ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).
(3) Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud i erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 gan y Gorchymyn hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymwyd iddynt ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny.
5 
Mae paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi eu harbed at ddibenion cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-2014.
Jane Hutt
Gweinidog dros Cyllid, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2013
YR ATODLEN
Erthygl 3(2)
1 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997 yn lle “the auditor appointed under section 13 of that Act to audit the accounts of the authority in accordance with Chapter 1 of Part 2 of that Act” rhodder “the Auditor General for Wales”.
2 
Yn erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 ar ôl “the Audit Commission or” mewnosoder “a local government body in Wales whose accounts are audited by”.
3 
Ym mharagraff 16 o Atodlen 2 (Cyflogwyr sy’n esempt o yswiriant) i Reoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1998 yn lle “The Auditor General for Wales” rhodder “The Wales Audit Office”.
4 
Yn rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 hepgorer—
(a) “archwilydd a benodwyd gan”; a
(b) “i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
5 
Yn rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 hepgorer—
(a) “archwilydd a benodwyd gan”; a
(b) “i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
6 
Yn rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002 hepgorer—
(a) “archwilydd a benodir gan”; a
(b) “i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
7 

(1) Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle pob cyfeiriad at “yr archwilydd” rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”.
(3) Yn lle rheoliad 15(2)(c) rhodder—“
(c) yr archwilydd yw Archwilydd Cyffredinol Cymru a chynnwys cyfeiriad Archwilydd Cyffredinol Cymru;”.
(4) Yn rheoliad 20 yn lle “cyfarwyddo archwilydd i gynnal” rhodder “cynnal”.
8 

(1) Mae Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Awdurdodau Cyhoeddus) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng Ngholofn 1 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—“Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”)”.
(3) Yng Ngholofn 2 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—“Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”)”.