
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2013.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966; ac
ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at—
(a) 
Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Tachwedd 2003, ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy’n ymledu drwy fwyd,
(b) 
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy’n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy’n gymwys i fasnach o fewn y Gymuned mewn semen anifeiliaid domestig o’r rhywogaethau mochaidd, ac i fewnforion o’r semen hwnnw, neu
(c) 
Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd,

i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
3 

Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy amdano o dan neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn ei dynnu’n ôl cyn penderfynu’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd pa bynnag gyfran o unrhyw ffi a dalwyd mewn perthynas â’r cais hwnnw sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, o ystyried unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais.
4 

(1) Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol—“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010” (“Commission Regulation (EU) No 200/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran targed yr Undeb ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau Salmonella mewn heidiau bridio llawn dwf o Gallusgallus;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011” (“Commission Regulation (EU) No 517/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran targed yr Undeb ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau Salmonella penodol mewn ieir dodwyGallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010;”.
(3) Yn erthygl 3 (yr awdurdod cymwys), yn lle paragraffau (a) a (b) (ond nid yr “ac” ar y diwedd) rhodder—“
(a) Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010;
(b) Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011;”.
(4) Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 8 (dull samplu yn ystod y cyfnod dodwy)—
(i) yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010”, a
(ii) yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011”; a
(b) ym mharagraff 12 (dyletswyddau’r person sydd â gofal labordy)—
(i) yn is-baragraff (3)(a), yn lle “3.1.2 o’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005” rhodder “3.1.3 o’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010”,
(ii) yn is-baragraff (3)(b), yn lle “3.1.3” rhodder “3.1.4”, a
(iii) yn is-baragraff (4)(a), yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011”.
5 

(1) Mae Atodlen 1 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rheoli Salmonella yn unol â’r Rhaglen Reoli Genedlaethol berthnasol, a sefydlwyd gan neu o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor.
(2) Yn Atodlen 1—
(a) mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o ddaliad dofednod, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b) mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; ac
(c) mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o heidiau dofednod, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
6 
Mae ffioedd wedi eu pennu fel a ganlyn yn Atodlen 2, am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno ac a weithredwyd gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011—
(a) yn Nhabl 1, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr, am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; a
(b) yn Nhabl 2, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
7 

(1) Mae Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle rheoliad 41 rhodder—“
41. 
Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru fel y darperir gan reoliad 7(4) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.”
(3) Hepgorer rheoliad 42.
(4) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn yn daladwy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno; ac y mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen honno ac a ddefnyddir hefyd yn Rheoliadau 2008 yr un ystyron ag yn Rheoliadau 2008.
8 

(1) Mae Atodlen 4 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dyroddi trwyddedau neu gymeradwyaethau a chynnal profion ac archwiliadau o dan—
(a) Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (“Rheoliadau 1964”); neu
(b) Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
(2) Mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geisydd am drwydded neu’r gymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 4, neu gan ddeiliad y cyfryw drwydded neu gymeradwyaeth, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Yn Atodlen 4 ystyr “canolfan ffrwythloni artiffisial” (“artificial insemination centre”) yw mangre—
(a) y mae trwydded mewn grym mewn perthynas â hi, o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 1964, neu
(b) sydd wedi ei chymeradwyo o dan reoliad 2(2) neu (3) o Reoliadau 1992.
9 

(1) Mae’r rheoliad hwn ac Atodlen 5 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am weithgareddau mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth neu ddeiliad cymeradwyaeth o dan Reoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (“Rheoliadau 1995”).
(2) Yn Atodlen 5, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am gymeradwyaeth, neu gan ddeiliaid cymeradwyaeth, o dan Reoliadau 1995 am weithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
10 

(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 6 yn daladwy pan gynhelir archwiliadau o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad mewn arolygfeydd ffin, yn unol â rheoliad 15 (gweithdrefn wrth fewnforio) o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
.
(2) Pennir y ffioedd sy’n daladwy am archwilio llwyth o anifeiliaid byw, a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 6, yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os ymgymerir ag archwilio unrhyw anifail byw mewn arolygfa ffin (naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol)—
(a) yn ystod penwythnos;
(b) ar ôl 17:00 o’r gloch ond cyn 08:30 o’r gloch ar ddiwrnod gwaith; neu
(c) yn ystod gŵyl gyhoeddus.
(4) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae ffi o £80 yn daladwy am bob cyflenwad sy’n ddarostyngedig i’w archwilio (yn ychwanegol at unrhyw ffi sy’n daladwy o dan Atodlen 6).
(5) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 6—
(a) ystyr “arolygfa ffin” (“border inspection post”) yw porthladd neu faes awyr a gymeradwywyd fel y cyfryw gan y Comisiwn Ewropeaidd;
(b) ystyr “llwyth” (“consignment”) yw casgliad o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif neu ddogfen filfeddygol;
(c) ystyr “cyflenwad” (“load”) yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn yr arolygfa ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio;
(d) ystyr “gŵyl gyhoeddus” (“public holiday”) yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971; ac
(e) ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth.
11 
Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial (Gwartheg a Moch) (Ffioedd) 1987;
(b) Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) (Ffioedd) 1995;
(c) Rheoliadau Anifeiliaid (Mewnforion o Drydydd Gwledydd) (Ffioedd) 1997;
(d) Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008; ac
(e) Rheoliadau’r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011.
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

29 Mai 2013Rydym yn cydsynio
Mark Lancaster
Robert Goodwill
Dau oArglwyddi Gomisiynwyr Trysorlys EiMawrhydi

20 May 2013
ATODLEN 1
Rheoliad 5

Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o ddaliad ieir neu dyrcwn, y mae sampl swyddogol wedi ei gymryd ohono, ei brosesu a’i archwilio
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd yn cymryd sampl rheoli swyddogol i’w archwilio mewn labordy (yn ychwanegol at y ffioedd a bennir isod)
 23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir dodwy 60
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir bridio 96
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir bwyta (brwyliaid) 89
Cymryd sampl rheoli swyddogol o heidiau o dyrcwn pesgi a bridio 87
Archwilio sampl rheoli swyddogol mewn labordy 15 am bob sampl a archwilir

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Prosesu cais am gymeradwyaeth ddechreuol i labordy, neu am adnewyddiad blynyddol o gymeradwyaeth labordy
 43
Cynnal archwiliadau a sicrwydd ansawdd, yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwywyd y labordy ar eu cyfer
 un prawf 642
dau brawf 661
tri phrawf 681
pedwar prawf 700
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer salmonela, fel sy’n ofynnol ar gyfer cael a chadw cymeradwyaeth fel labordy profi 37 y prawf


Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o heidiau dofednod, am gynnal profion o dan bwynt 4(b) o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Cynnal profion ar saith o samplau llwch a charthion a gymerir o bob haid 15 am bob sampl a brofir

Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar gaeca ac wyffosydd 300 o adar o bob haid 3,560
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid 2,310
ATODLEN 2
Rheoliad 6

Ffioedd am gofrestru a chymeradwyo sefydliad at ddibenion y cynllun iechyd dofednod
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)

Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo sydd yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn), yn ychwanegol at y ffioedd a restrir isod, oni phennir fel arall yng ngholofn 2 nad yw’r ffi amser hon yn gymwys 
23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd

Cofrestriad blynyddol fel aelod o’r cynllun iechyd dofednod (“aelod o’r cynllun” yn y Tabl hwn)
 61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun 210
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan wneir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol 233
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, pan wneir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol 74 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan wneir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol 78 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, pan gyflawnir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol
 178
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan gyflawnir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol 183

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyo at ddiben y cynllun iechyd dofednod
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Prosesu cais am gymeradwyaeth ddechreuol i labordy neu adnewyddiad blynyddol o gymeradwyaeth labordy 43
Prawf hyfedredd mewn perthynas â bacterioleg 
Salmonella
 (

pullorum, gallinarum 
ac
 arizonae
) 131 y prawf
Prawf hyfedredd mewn perthynas â seroleg 

Salmonella
 (
pullorum 
a 
gallinarum
) 336 y prawf
Prawf hyfedredd mewn perthynas âseroleg 
Mycoplasma
 mewn ieir (
gallisepticum
) 336 y prawf
Prawf hyfedredd mewn perthynas â meithrin 

Mycoplasma
 (
gallisepticum 
a
 meleagridis
) 281 y prawf
Prawf hyfedredd mewn perthynas â seroleg 

Mycoplasma
 mewn tyrcwn (

gallisepticum 
a

 meleagridis
) 336 y prawf
ATODLEN 3
Rheoliad 7(4)


Ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr o dan Reoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”)
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo yn y Tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a restrir isod) swyddog nad yw’n swyddog milfeddygol 12 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd
swyddog milfeddygol 23 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd
Ystyried cais o dan reoliadau 7 a 10 o Reoliadau 2008 am gymeradwyo anifail buchol ar gyfer ei ddefnyddio mewn canolfannau casglu domestig neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu 38
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2008 am gymeradwyo anifail buchol ar gyfer ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu UE Anifail buchol o dan 6 mis oed 187
Anifail buchol dros 6 mis oed ac mewn grŵp o’r un rhyw 187
Anifail buchol dros 6 mis oed ac mewn grŵp cymysg o ran rhyw 368
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantin UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 114
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gasglu UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 146
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan storio UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 63
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 2008 14
ATODLEN 4
Rheoliad 8


Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (“Rheoliadau 1964”) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE)1992
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo sydd yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn), yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a restrir isod, oni phennir yng ngholofn 2 nad yw’r ffi amser hon yn gymwys swyddog nad yw’n swyddog milfeddygol 12 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd
swyddog milfeddygol 23 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd
Cais am gymeradwyo baeddod i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial
Ystyried cais am gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen na fydd yn destun masnachu o fewn yr UE 92
Ystyried cais am gymeradwyo pob baedd ychwanegol a archwilir yr un pryd 19 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Profi baeddod yn rheolaidd

Profion rheolaidd gorfodol ar faeddod yn unol â pharagraff 1 o Bennod II o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC mewn canolfannau ffrwythloni artiffisial y gall semen ohonynt fod yn destun masnachu o fewn yr UE hyd at uchafswm o 10 baedd 201
am bob baedd ychwanegol a brofir yn y fangre 26
Profion rheolaidd ar faeddod mewn canolfannau ffrwythloni artiffisial na fydd semen ohonynt yn destun masnachu o fewn yr UE hyd at uchafswm o 10 baedd 140
am bob baedd ychwanegol a brofir yn y fangre 19
Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial
Ystyried cais gan weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial 29
Ystyried cais am gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig (yn unol ag amodau a atodir i’r drwydded) 29
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial 9
ATODLEN 5
Rheoliad 9


Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (“Rheoliadau 1995”)
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni archwiliadau a gwiriadau (yn ychwanegol at y ffioedd sylfaenol a restrir yn y Tabl hwn pan fo’n ofynnol archwilio’r cyfleusterau perthnasol neu’r fangre berthnasol, neu wirio’r cofnodion) 
23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd
Ystyried cais am gymeradwyo un tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol, pan fo’n cynnwys archwilio un labordy 131
Ystyried cais gan yr un ceisydd am gymeradwyo pob labordy neu storfa ychwanegol, pan fo pellter y labordy hwnnw neu’r storfa honno oddi wrth y timau embryonau eraill a archwiliwyd ar gyfer eu cymeradwyo yn fwy nag 8 cilometr 86
Ystyried cais gan yr un ceisydd am gymeradwyo labordy neu storfa ychwanegol, pan wneir yr archwiliad ar yr un diwrnod a phan fo pellter y labordy neu’r storfa oddi wrth y timau embryonau eraill a archwiliwyd ar gyfer eu cymeradwyo yn 8 cilometr neu’n llai 27

Ystyried cais am gymeradwyo:
- tîm trosglwyddo embryonau buchol; neu
- storfa o dan reoliad 13;
- storfa o dan reoliad 16; neu
- storfa a’i goruchwyliwr o dan reoliadau 16 a 19,
o Reoliadau 1995 60
Ystyried cais am ailgymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau 71
Cynnal archwiliad rheolaidd o gofnodion un tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ac ailarchwilio un labordy neu storfa 70
Cynnal archwiliad rheolaidd o gofnodion pob tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ychwanegol ac ailarchwilio pob labordy neu storfa ychwanegol 41 am bob tîm a labordy neu storfa ychwanegol
Ystyried cais am gymeradwyo tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol, heb archwilio labordy 168
ATODLEN 6
Rheoliad 10


Ffioedd am archwilio llwythi o anifeiliaid o drydydd gwledydd a gwirio dogfennau mewnforio mewn arolygfeydd ffin yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
Colofn 1Archwilio math o anifail a gwirio dogfennau Colofn 2Ffi (£) am bob llwyth
Dofednod, ratidau ac adar hela bach 44
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac ymlusgiaid
 40
Cwningod a chnofilod 44
dAdar caeth 44
Gwenyn, pryfed eraill ac infertebratau 40
Anifeiliaid anwes digwmni 44
Equidae 54
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt 54
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall 44
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho 44