
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) 2013 a daw i rym ar 23 Mehefin 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn unol ag adran 10(1)(b) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 mae Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector wedi ei ddynodi'n 'awdurdod ardystio Cymru' i ddyroddi tystysgrifau prentisiaeth yn gyffredinol.
Jeff Cuthbert
O dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2013