
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prentisiaethau (Dyroddi Tystysgrifau Prentisiaeth) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 23 Mehefin 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
3 
At ddibenion gwneud cais am dystysgrif brentisiaeth o dan adrannau 7 ac 8 o'r Ddeddf, rhaid i berson gyflwyno cais yn ysgrifenedig.
4 

(1) Mae awdurdod ardystio Cymru wedi ei awdurdodi i godi ffi am ddyroddi tystysgrif brentisiaeth ar y person sy'n gwneud cais am dystysgrif brentisiaeth.
(2) Ni chaniateir i swm y ffi y caiff awdurdod ardystio Cymru ei chodi am ddyroddi tystysgrif brentisiaeth fod yn fwy na £30, neu'r gost yr aed iddi gan awdurdod ardystio Cymru er mwyn dyroddi'r dystysgrif brentisiaeth, pa swm bynnag sydd isaf.
5 

(1) Rhaid i awdurdod ardystio Cymru ddarparu copi o dystysgrif brentisiaeth i'r person y dyroddwyd y dystysgrif brentisiaeth wreiddiol iddo pan fo'r person hwnnw yn cyflwyno cais yn ysgrifenedig i awdurdod ardystio Cymru.
(2) Mae awdurdod ardystio Cymru wedi ei awdurdodi i godi ffi am ddarparu copi o dystysgrif brentisiaeth.
(3) Ni chaniateir i swm y ffi y caiff awdurdod ardystio Cymru ei chodi am ddarparu copi o dystysgrif brentisiaeth fod yn fwy na £30, neu'r gost yr aed iddi gan awdurdod ardystio Cymru er mwyn darparu'r dystysgrif brentisiaeth, pa swm bynnag sydd isaf.
Jeff Cuthbert
O dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2013