
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2013.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Gorffennaf 2013.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Mae Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 wedi eu dirymu.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr "Cod Derbyniadau Ysgol" ("School Admissions Code") yw unrhyw god ar gyfer derbyniadau ysgol a ddyroddwyd o dan adran 84 o DSFfY 1998;
 ystyr "cynigion a gymeradwywyd" ("approved proposals") yw—
(a) hyd nes y bydd adran 99 o DSThY 2013 ac Atodlen 5 iddi (i'r graddau y maent yn diddymu paragraffau 8 a 9 o Atodlen 6 i DSFfY 1998), wedi eu cychwyn—
(i) cynigion a gyhoeddwyd o dan adrannau 28 neu 29 o DSFfY 1998 ac sydd wedi eu cymeradwyo o dan baragraff 8 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno, neu
(ii) cynigion a gyhoeddwyd o dan adrannau 28 neu 29 o DSFfY 1998 y mae corff neu hyrwyddwr a'u cyhoeddodd wedi penderfynu y dylent gael eu rhoi ar waith o dan baragraff 9 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno; a
(b) pan fydd adran 99 o DSThY 2013 ac Atodlen 5 iddi (i'r graddau y maent yn diddymu paragraffau 8 a 9 o Atodlen 6 i DSFfY 1998) wedi eu cychwyn—
(i) cynigion a gyhoeddir o dan adran 48 o DSThY 2013 ac sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51 o DSThY 2013, neu
(ii) cynigion a gyhoeddir o dan adran 49 o DSThY 2013 y mae hyrwyddwr a'u cyhoeddodd wedi penderfynu y dylent gael eu rhoi ar waith o dan adran 53 o DSThY 2013;
 ystyr "DSFfY 1998" ("the SSFA 1998") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr "DSThY 2013" ("the SSOA 2013") yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 89(8)(e) o DSFfY 1998 yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod derbyn, ar ôl penderfynu ar y trefniadau derbyn sydd i fod yn gymwys ar gyfer blwyddyn ysgol benodol, (yn ychwanegol at yr amgylchiadau hynny a nodir yn adran 89(5)) amrywio'r trefniadau hynny.
(2) Caiff awdurdod derbyn amrywio'r trefniadau derbyn i'r graddau y mae angen amrywiad o'r fath er mwyn rhoi effaith i unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(a) y Cod Derbyniadau Ysgol;
(b) rhoi'r cynigion a gymeradwywyd ar waith; neu
(c) cywiro unrhyw beth a hepgorwyd o'r trefniadau derbyn neu unrhyw wall argraffu ynddynt.
Leighton Andr
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2013