
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mai 2013.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn,
 mae i “awdurdodau penodi” (“appointing authorities”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;
 ystyr “cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu” (“joint overview and scrutiny committee”) yw pwyllgor a benodir o dan reoliad 3(1);
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
 mae i “mater wedi ei eithrio” (“excluded matter”) yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 58(2) o'r Mesur;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; ac
 mae i “person dynodedig” yr un ystyr â “designated person” yn adran 21(18) o Ddeddf 2000.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, caiff dau awdurdod lleol neu ragor (“yr awdurdodau penodi”) benodi cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, a threfnu i'r pwyllgor arfer unrhyw swyddogaethau sy'n dod o fewn paragraff (2) a benderfynir gan yr awdurdodau hynny.
(2) Mae'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn swyddogaethau sy'n ymwneud â llunio adroddiadau neu wneud argymhellion i unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau penodi ac i unrhyw un neu ragor o'u gweithrediaethau, ynghylch unrhyw fater—
(i) nad yw'n fater wedi ei eithrio; a
(ii) sy'n effeithio ar ardal gyfan neu ran o ardal pob un o'r awdurdodau penodi.
4 

(1) Pan fo dau awdurdod penodi neu ragor yn penodi cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, rhaid iddynt ymrwymo mewn cytundeb—
(a) sy'n nodi'r materion y caiff y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu lunio adroddiadau a gwneud argymhellion yn eu cylch;
(b) sy'n pennu nifer yr aelodau y caniateir eu penodi i'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, ac sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cyfnod yr aelodau hynny yn y swydd;
(c) sy'n cynnwys darpariaeth ynghylch cworwm cyfarfodydd y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu ac unrhyw is-bwyllgor y mae'r pwyllgor yn ei benodi;
(d) sy'n gwneud darpariaeth am y cyfnod y bydd y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn parhau;
(e) sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn i awdurdod penodi dynnu'n ôl o'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu; ac
(f) sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau gweinyddol y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, ac mae rhaid i hynny gynnwys bod Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd yr awdurdodau penodi (neu un ohonynt) yn darparu'r lefel briodol o gymorth swyddogion ac adnoddau eraill i'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu.
(2) Ym mharagraff (1)(f), mae i “Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd” (“Head of Democratic Services”) yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 8 o'r Mesur.
5 

(1) Y personau sy'n gymwys i'w penodi yn aelodau o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn unol â rheoliad 3(1) yw—
(a) aelodau, ac eithrio aelodau gweithrediaeth yr awdurdodau penodi; a
(b) personau a benodir yn unol â pharagraff 8 neu 9 o Atodlen 1 i Ddeddf 2000 i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu o unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau penodi.
(2) Rhaid i aelodau cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodir yn unol â rheoliad 3(1) gynnwys yr un nifer o bersonau o bob un o'r awdurdodau penodi.
(3) Nid yw cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i'w ystyried yn gorff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.
(4) Rhaid i bob awdurdod penodi sicrhau, i'r graddau y mae'n ymarferol, fod aelodau cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu sy'n dod o fewn paragraff (1)(a) yn adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol am y tro ymhlith aelodau'r awdurdod penodi.
6 

(1) Caiff cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu—
(a) penodi un is-bwyllgor neu ragor o blith ei aelodau; a
(b) trefnu i unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau gael eu harfer gan y cyfryw is-bwyllgor.
(2) Ni chaniateir i is-bwyllgor i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu arfer unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (1)(b).
(3) Mae unrhyw adroddiad a lunnir neu unrhyw argymhellion a wneir, yn unol â threfniadau o dan baragraff (1)(b), gan is-bwyllgor i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan benderfyniad y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu.
(4) Mae is-bwyllgor i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i gynnwys nifer cyfartal o aelodau o bob un o'r awdurdodau penodi.
7 

(1) Rhaid i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu benodi cadeirydd y pwyllgor, a chaiff benodi dirprwy gadeirydd o blith yr aelodau hynny a benodir o dan reoliad 3(1).
(2) Caniateir i drefniadau o dan reoliad 3(1) gynnwys darpariaeth ar gyfer y cyfnod y bydd y cadeirydd yn parhau yn y swydd ac ar gyfer cylchdroi swydd y cadeirydd rhwng aelodau'r awdurdodau penodi.
(3) Rhaid i is-bwyllgor i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu benodi cadeirydd yr is-bwyllgor, a chaiff benodi dirprwy gadeirydd yr is-bwyllgor, o blith yr aelodau hynny a benodir o dan reoliad 6(1).
(4) Caiff pob aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodir yn unol â rheoliad 3(1) neu o is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor a benodir yn unol â rheoliad 6(1) bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
(5) Pan geir yr un nifer o bleidleisiau yn un o gyfarfodydd cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor, mae gan y cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
8 
Mae cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, neu is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, i'w drin fel pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).
9 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i berson—
(a) a benodir i fod yn aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn unol â rheoliad 3(1); a
(b) sy'n aelod o un o'r awdurdodau penodi ar adeg y penodiad hwnnw.
(2) Os yw person y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod penodi hwnnw, yna mae'r person hwnnw ar unwaith yn peidio â bod yn aelod o'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu hefyd.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw person—
(a) yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod penodi oherwydd iddo ymddeol; a
(b) yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.
10 
Os caiff person a benodir yn aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu ei atal dros dro rhag bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o un o'r awdurdodau penodi, ni chaiff y person hwnnw wasanaethu fel aelod o'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu am y cyfnod y mae wedi ei atal dros dro.
11 

(1) Caiff cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, neu is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, benderfynu cyfethol aelodau ychwanegol i wasanaethu ar y pwyllgor neu'r is-bwyllgor, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5).
(2) Ni chaniateir i berson gael ei benodi'n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, nac o is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, oni chymeradwyir y penodiad gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor.
(3) Nid oes gan berson a gyfetholir i wasanaethu ar gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, neu ar is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, hawl i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
(4) Ni chaniateir i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, nac is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, gyfethol person sy'n aelod o awdurdod lleol, p'un a yw'r awdurdod hwnnw yn un o'r awdurdodau penodi ai peidio.
(5) Caiff y pwyllgor neu'r is-bwyllgor perthnasol dynnu'n ôl, drwy bleidlais fwyafrif, aelodaeth person a gyfetholir i wasanaethu ar gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, neu ar is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, ar unrhyw adeg.
12 

(1) Rhaid i drefniadau o dan reoliad 3(1) gynnwys darpariaeth sy'n galluogi—
(a) unrhyw aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i gyfeirio at y pwyllgor unrhyw fater sy'n berthnasol i'w swyddogaethau;
(b) unrhyw aelod o is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor i gyfeirio at yr is-bwyllgor unrhyw fater sy'n berthnasol i'w swyddogaethau; ac
(c) unrhyw aelod o unrhyw un o'r awdurdodau penodi i gyfeirio at gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdodau hynny, unrhyw fater llywodraeth leol sy'n berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor.
(2) At ddibenion paragraff (1) mae darpariaeth yn galluogi person i gyfeirio mater at gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu at is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor os yw'n galluogi'r person hwnnw i sicrhau y caiff y mater ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor hwnnw neu'r is-bwyllgor hwnnw a'i drafod yn y cyfarfod hwnnw.
(3) Pan fo'r pwyllgor yn llunio adroddiad neu'n gwneud argymhellion ynghylch mater y cyfeiriwyd ato gan yr aelod hwnnw, rhaid iddo ddarparu copi o'r adroddiad neu'r argymhellion i'r aelod hwnnw.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “mater llywodraeth leol”, mewn perthynas ag aelod o awdurdod penodi, yr un ystyr ag a roddir i “local government matter” yn adran 21A(12) o Ddeddf 2000.
13 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn llunio adroddiad neu'n gwneud argymhellion i unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau penodi neu eu gweithrediaethau yn unol â rheoliad 3(2).
(2) Caiff y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu gyhoeddi'r adroddiad neu'r argymhellion.
(3) Caiff y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod neu'r awdurdodau penodi, neu'r weithrediaeth neu'r gweithrediaethau—
(a) ystyried yr adroddiad neu'r argymhellion ac ymateb iddynt, gan nodi pa gamau (os oes rhai) y mae'n bwriadu eu cymryd neu y maent yn bwriadu eu cymryd; a
(b) cyhoeddi'r ymateb, os yw'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu wedi cyhoeddi adroddiad neu argymhellion o dan baragraff (2).
(4) Pan fo'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu wedi darparu copi o'r adroddiad neu'r argymhellion i aelod o awdurdod penodi o dan reoliad 12(3), rhaid iddo ddarparu copi o'r ymateb i'r aelod hwnnw.
14 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo adroddiad neu argymhellion ynghylch mater yn ymwneud â pherson dynodedig yn unol ag adran 21(2ZA) o Ddeddf 2000.
(2) Caiff y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu—
(a) anfon copi o'r adroddiad neu'r argymhellion i'r person dynodedig; a
(b) gofyn i'r person dynodedig roi sylw i'r adroddiad neu'r argymhellion.
15 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—
(a) cyhoeddi o dan reoliad 13 unrhyw ddogfen sy'n cynnwys—
(i) adroddiad neu argymhellion cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu; neu
(ii) ymateb unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau penodi neu eu gweithrediaethau i unrhyw adroddiad neu argymhellion o'r fath;
(b) darparu copi o adroddiad neu argymhellion i berson dynodedig o dan reoliad 14.
(2) Wrth i'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, yr awdurdod neu'r awdurdodau penodi, y weithrediaeth neu'r gweithrediaethau gyhoeddi'r ddogfen neu ddarparu copi o'r ddogfen i berson dynodedig—
(a) rhaid eithrio unrhyw wybodaeth gyfrinachol; a
(b) caniateir eithrio unrhyw wybodaeth esempt berthnasol.
(3) Os caiff gwybodaeth ei heithrio o dan baragraff (2), wrth i'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu'r awdurdod neu'r awdurdodau penodi neu'r weithrediaeth neu'r gweithrediaethau gyhoeddi'r ddogfen neu ddarparu copi o'r ddogfen—
(a) caniateir disodli'r rhan o'r ddogfen sy'n datgelu'r wybodaeth a rhoi crynodeb nad yw'n datgelu'r wybodaeth honno yn ei lle, a
(b) rhaid gwneud hynny pe byddai'r ddogfen yn gamarweiniol neu pe na fyddai'n rhesymol ddealladwy yn sgil eithrio'r wybodaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “gwybodaeth esempt” yr ystyr a roddir i “exempt information” gan adran 100I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac, mewn perthynas ag unrhyw adroddiad neu argymhellion pwyllgor neu gyd-bwyllgor sydd â swyddogaethau o dan adran 21(2)(f) o Ddeddf 2000, mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy'n wybodaeth esempt o dan adran 186 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “gwybodaeth esempt berthnasol” (“relevant exempt information”) yw—
(a) mewn perthynas ag adroddiad neu argymhellion cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor, gwybodaeth esempt o ddisgrifiad a bennir mewn penderfyniad gan y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor o dan adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a oedd yn gymwys i'r trafodion, neu ran o'r trafodion, mewn unrhyw gyfarfod o'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu'r is-bwyllgor lle yr ystyriwyd yr adroddiad neu'r argymhellion;
(b) mewn perthynas ag ymateb yr awdurdod, gwybodaeth esempt o ddisgrifiad a bennir yn y cyfryw benderfyniad gan yr awdurdod a oedd yn gymwys i'r trafodion, neu ran o'r trafodion, mewn unrhyw gyfarfod o'r awdurdod lle yr ystyriwyd yr adroddiad, neu'r ymateb neu'r argymhellion;
(c) mewn perthynas ag ymateb y weithrediaeth, gwybodaeth esempt o ddisgrifiad a bennir yn y cyfryw benderfyniad gan y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor a oedd yn gymwys i'r trafodion, neu ran o'r trafodion, mewn unrhyw gyfarfod o'r awdurdod lle yr ystyriwyd yr adroddiad, neu'r ymateb neu'r argymhellion;
 mae i “gwybodaeth gyfrinachol” yr ystyr a roddir i “confidential information” gan adran 100A(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (mynd i gyfarfodydd prif gynghorau).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
30 Ebrill 2013