
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 26 Ebrill 2013, i'r graddau y maent yn ymwneud â gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion—
(a) adran 38 (cod trefniadaeth ysgolion);
(b) adran 39 (llunio a chymeradwyo cod trefniadaeth ysgolion);
(c) adran 97 (gorchmynion a rheoliadau); a
(d) adran 98 (dehongli'n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio).
3 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 4 Mai 2013, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a) adran 97 (gorchmynion a rheoliadau); a
(b) adran 98 (dehongli'n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
24 Ebrill 2013