
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012.
2 
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1993” (“1993 Act”) yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
3 
Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gan adran 3 o Ddeddf 1993 i Weinidogion Cymru (yn ychwanegol at eu trosglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg gan adran 143(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011).
4 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio datganiad o gyfrifon mewn perthynas â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2011 hyd 31 Mawrth 2012.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r datganiad o gyfrifon at Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst 2012.
(3) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiad o gyfrifon a gosod copïau o'r datganiad a'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
5 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar y modd yr arferodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2011 hyd 31 Mawrth 2012.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
6 
Yn Rhan I (Cyrff a allai golli neu ennill swyddogaethau) o Atodlen 4 (Cyrff cyhoeddus a allai gael eu diwygio gan y Cynulliad) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, hepgorer paragraff 13.
7 
Ym mharagraff 23 o Atodlen 2A (Personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan adran 72B) i Ddeddf Safonau Gofal 2000, yn lle “The Welsh Language Board.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.
8 
Yn Rhan VI (Cyrff a swyddi cyhoeddus eraill : cyffredinol) o Atodlen 1 (Awdurdodau cyhoeddus) i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, hepgorer “The Welsh Language Board.” a mewnosoder yn y man priodol “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.
9 
O dan y pennawd “Miscellaneous” yn Atodlen 3 (Awdurdodau rhestredig) i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, yn lle “The Welsh Language Board.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.
10 
O dan y pennawd “Miscellaneous” yn Atodlen 2 (Personau sydd a'u swyddogaethau yn destun adolygiad o dan adran 3) i Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, yn lle “The Welsh Language Board.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.
11 
O dan y pennawd “Other public authorities” yn Rhan 2 (Awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol) o Atodlen 19 (Awdurdodau cyhoeddus) i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn lle “The Welsh Language Board or Bwrdd yr Iaith Gymraeg.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.
12 
Yn adran 16 (Ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, yn lle paragraff (d) o is-adran (2) rhodder “(d) Comisiynydd y Gymraeg wrth arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38) (ymchwiliadau);”.
13 
Yn rheoliad 7 (Ymgynghoriad) o Reoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007 yn lle is-baragraff (f) o baragraff (2) rhodder “(f) Comisiynydd y Gymraeg;”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2012