
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2012.
2 
Diwygir Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (y pennir Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) ynddi) yn unol ag erthyglau 3 a 4 o'r Gorchymyn hwn.
3 
Ym Mhennod 1 o Ran 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol), yn rheol 3(1) (cyfraniadau pensiwn), yn lle “yn ôl cyfradd o 8.5 y cant o'i dâl pensiynadwy am y tro” rhodder “yn ôl y gyfradd o dâl pensiynadwy yr aelod-ddiffoddwr tân am y tro, a bennir yn y Tabl yn Atodiad A1”.
4 
Ar ôl Rhan 15 mewnosoder—“
ATODIAD A1
1 
Cyfradd y cyfraniad pensiwn a grybwyllir yn rheol 3(1) o Ran 11 yw'r gyfradd a bennir yn y Tabl isod drwy gyfeirio at swm tâl pensiynadwy'r aelod-ddiffoddwr tân yng ngholofn gyntaf y Tabl.
2 
Swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, at ddibenion colofn gyntaf y Tabl, yw tâl cyfeirio'r diffoddwr tân hwnnw.
3 
Swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd rhan-amser, at ddibenion colofn gyntaf y Tabl, yw swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser-llawn sydd â rôl a chyfnod gwasanaeth cyfatebol.
4 
Os digwyddodd newid perthnasol parhaol yn nhelerau ac amodau cyflogaeth aelod-ddiffoddwr tân, a'r newid yn effeithio ar swm tâl pensiynadwy'r aelod hwnnw, yna, o ddyddiad y newid hwnnw, rhaid cyfrifo'r tâl pensiynadwy drwy gyfeirio at y swm diwygiedig.
5 
Nid yw'r tâl pensiynadwy yng ngholofn gyntaf y Tabl isod yn cynnwys taliadau a wneir i ddiffoddwr tân rheolaidd gan yr awdurdod tân ac achub mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus y diffoddwr tân, ond caiff y taliadau hynny eu cynnwys yn nhâl pensiynadwy'r diffoddwr tân at ddibenion cymhwyso'r gyfradd a bennir yn yr ail golofn.

Y tâl pensiynadwy Y gyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2012 ymlaen
Hyd at a chan gynnwys £15,000 8.5% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £15,000 a hyd at a chan gynnwys £30,000 8.8% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,000 8.9% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,000 9.0% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,000 9.1% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,000 9.3% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,000 9.5% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £120,000 9.7% o'r tâl pensiynadwy”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2012