
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 4) 2012.
2 
Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 1 Ebrill 2012—
(a) adrannau 2, 23, 138, 139 a 146 i'r graddau nad yw'r adrannau hyn eisoes mewn grym;
(b) Atodlenni 1, 4 a 12 i'r graddau nad yw'r Atodlenni hyn eisoes mewn grym;
(c) adrannau 3, 5 a 6;
(d) adran 7 ac eithrio
(i) isadrannau (2) a (6) lle mae'r isadrannau hynny'n ymwneud â Rhan 5,
(ii) is-adrannau (3)(b), (4), (8) a (10);
(e) Atodlen 2 ac eithrio paragraff 8(2)(a);
(f) adrannau 8 i 10 a 12 i 15;
(g) adran 16 ac eithrio isadrannau (2)(a) a (b);
(h) adrannau 17 i 19;
(i) cychwynnir Rhan 4 fel a ganlyn:
(i) Penodau 2 i 5,
(ii) Pennod 8, a
(iii) Pennod 9 ac eithrio adran 69;
(j) Atodlenni 5 i 9;
(k) Rhan 6;
(l) paragraffau 9 a 18 o Atodlen 11 ac adran 120(4) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny;
(m) adrannau 134 i 137;
(n) adran 140 ac eithrio'r canlynol:
(i) isadran (1)(c), a
(ii) isadrannau (1)(d) ac (e) lle mae'r isadrannau hynny yn cyfeirio at ymchwiliadau o dan Ran 5;
(o) adran 141 ac eithrio'r canlynol:
(i) isbaragraff (a) o'r diffiniad o “achwynydd”, a
(ii) isbaragraff (b) o'r diffiniad o “ymchwiliad”;
(p) adrannau 142, 143, 144(3)(b) a 147.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Mawrth 2012