
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaenol) (Cymru) (Dirymu) 2012 a daw i rym ar 18 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaenol) (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
23 Mawrth 2012