
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lleoliaeth 2011.
2 
Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru a Lloegr, yw 1 Ebrill 2012—
(a) adran 9(1) i'r graddau y mae'n mewnosod—
(i) adrannau 5A a 5B newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru,
(ii) adrannau 5C a 5D newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y maent yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion, a
(iii) adrannau 5F i 5L newydd yn Neddf 2004;
(b) adran 9(2) i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;
(c) adran 9(3), (6) a (7)(a) ac (c);
(d) adran 9(7)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 62(1A)(a) a (d) newydd yn Neddf 2004;
(e) adran 9(7)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 62(1A)(b) newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y mae'n ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion;
(f) adran 10(1) i (3) a (5) i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;
(g) adran 10(4);
(h) i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, y cofnodion ar gyfer adrannau 5 ac 19 o Ddeddf 2004 yn Rhan 2 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cofnodion hynny; ac
(i) y cofnod ar gyfer adran 62(3) o Ddeddf 2004 yn Rhan 2 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cofnod hwnnw.
3 
Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yw 1 Ebrill 2012—
(a) adran 46;
(b) yn ddarostyngedig i erthygl 4, adran 162(3) (b) ac (c); ac
(c) Rhannau 7 a 10 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhannau hynny.
4 

(1) Mae'r ddarpariaeth arbed ganlynol yn cael effaith.
(2) Mae'r diwygiadau a wneir gan adran 162(3)(b) ac (c) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth os bu farw'r tenant diogel, y cyfeirir ato yn adran 89(1) neu 90(1) (yn ôl fel y digwydd) o Ddeddf Tai 1985 (“y tenant blaenorol”), ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.
(3) Nid yw'r diwygiadau hynny yn gymwys os bu farw'r tenant blaenorol cyn y dyddiad hwnnw.
(4) Mae i'r geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn yr erthygl hon, yr un ystyr a roddir i eiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rhan 4 o Ddeddf Tai 1985 ac yn Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.
14 Mawrth 2012