
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir (Cymru) 2012 a daw i rym ar 6 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (dehongli'n gyffredinol); ac
 ystyr “Gorchymyn 1974” (“1974 Order”) yw Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir 1974.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf Digollediad Tir 1961.
(3) Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan berson i wneud cais am dystysgrif o dan adran 17 i, neu erchi am wybodaeth o dan erthygl 5 oddi wrth, awdurdod cynllunio lleol, ac yn y paragraffau hynny ystyr “y derbynnydd” yw'r awdurdod cynllunio lleol hwnnw.
(4) Ni chymerir bod y cais neu'r archiad wedi ei wneud oni bai bod y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfathrebiad electronig—
(a) yn gallu cael ei chyrchu gan y derbynnydd;
(b) yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c) yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen ar gael i'r derbynnydd o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Os derbynnir cyfathrebiad electronig gan y derbynnydd y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, cymerir ei fod wedi ei dderbyn ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(7) Bydd gofyniad yn y Gorchymyn hwn fod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei gyflawni os bydd y ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae'r ymadrodd “ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
3 

(1) Rhaid i gais i awdurdod cynllunio lleol am dystysgrif o dan adran 17—
(a) bod yn ysgrifenedig;
(b) cynnwys plan neu fap sy'n ddigonol i nodi'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef; ac
(c) cydymffurfio â gofynion adran 17(3).
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 17(4), bydd y cyfnod amser y mae tystysgrif i'w dyroddi ynddo gan awdurdod cynllunio lleol yn ddau fis ar ôl i gais o'r fath gael ei dderbyn ganddo ef.
(3) Os bydd awdurdod cynllunio lleol yn dyroddi tystysgrif nad yw ar gyfer y datblygiad a ddisgrifir yn y cais a wnaed iddo ef, neu yn groes i'r sylwadau ysgrifenedig a wnaed iddo gan barti sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r mater, rhaid iddo gynnwys yn y dystysgrif honno ddatganiad ysgrifenedig yn nodi ei resymau dros wneud hynny ac yn rhoi manylion am y modd y caniateir i apêl gael ei gwneud a'r cyfnod amser y caniateir iddi gael ei gwneud ynddo o dan adran 18.
4 
Os gwneir archiad ysgrifenedig i awdurdod cynllunio lleol gan unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo fod ganddo fuddiant yn y tir sy'n destun tystysgrif o dan adran 17 am—
(a) enw a chyfeiriad y sawl a wnaeth gais am y dystysgrif a dyddiad y cais, a
(b) copi o'r dystysgrif,rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi'r wybodaeth honno a chopi o'r dystysgrif, os yw ar gael, i'r person hwnnw.
5 
Os gwneir cais am dystysgrif o dan adran 17 neu archiad am wybodaeth o dan erthygl 4 yn electronig, cymerir bod y person sy'n gwneud y cais neu'r archiad (yn ôl y digwydd) wedi cytuno—
(a) i'r awdurdod cynllunio lleol ddefnyddio cyfathrebiad o'r fath er mwyn ymateb i'r archiad hwnnw, gan gynnwys dyroddi tystysgrif (os yw'n gymwys);
(b) mai'r cyfeiriad at y dibenion hyn yw'r cyfeiriad sydd wedi ei ymgorffori yn yr archiad hwnnw, neu sydd wedi ei gysylltu'n rhesymegol ag ef; ac
(c) y bydd y cytundeb tybiedig o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes i'r person sy'n gwneud y cais neu'r archiad hysbysu yn ysgrifenedig—
(i) yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu
(ii) yn dirymu'r cytundeb tybiedig,
a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol ac yn dod yn weithredol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person, ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
6 

(1) Mae Gorchymyn 1974 wedi ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru ar yr amod y bydd unrhyw gais am dystysgrif, neu unrhyw archiad am wybodaeth ynglŷn â thystysgrif, o dan adran 17, na phenderfynwyd arno erbyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ac ymdrinnir ag ef o dan ac yn unol â darpariaethau'r Gorchymyn hwn.
(2) Os, pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, bydd apêl wedi ei gwneud o dan adran 18 ac erthygl 4 o Orchymyn 1974 ac na fydd y cyfnod ar gyfer darparu dogfennau o dan erthygl 4(3) o Orchymyn 1974 wedi dod i ben eto, bydd darpariaethau erthyglau 4(3) a 4(4) o Orchymyn 1974 yn parhau mewn grym o ran yr apêl honno.
John Griifths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
15 Mawrth 2012