
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Cymunedau Llanfair Dinbych-y-pysgod a Dinbych-y-pysgod) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym at bob diben ar 1 Ebrill 2012, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Map” (“the Map”) yw'r map a farciwyd â “Y map y cyfeirir ato yng Ngorchymyn Sir Benfro (Cymunedau Llanfair Dinbych-y-pysgod a Dinbych-y-pysgod) 2012” ac sydd wedi ei adneuo yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o Sir Benfro; ac
 os dangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, rhaid ei thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3 
Mae'r rhan o gymuned Dinbych-y-pysgod a ddangosir â llinellau rhesog ar y Map—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanfair Dinbych-y-pysgod; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Penalun.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Lywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2012