
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012.
2 
Bydd darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym o ran Cymru ar 30 Ebrill 2012—
(a) adran 188;
(b) adran 197 ac Atodlen 11; ac
(c) adran 238 ac Atodlen 13, i'r graddau y maent yn rhoi effaith i'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2012
YR ATODLEN
Erthygl 2


Cyfeiriad Graddau'r diddymu
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) Adran 61A(1) Yn Atodlen 4A, paragraff 2(4) a (5)