
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2012.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2012 ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at—
(a) “personau A” (“persons A”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael eu cyflogi gan y Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sydd wedi cael ac wedi derbyn cyn y dyddiad hwnnw gynnig i gael eu cyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru;
(b) “personau B” (“persons B”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael eu cyflogi gan y Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sydd wedi cael ac wedi derbyn cyn y dyddiad hwnnw gynnig i gael eu cyflogi gan y Comisiynydd;
(c) “personau C” (“persons C”) yn cyfeirio at bersonau sy'n cael neu sydd wedi cael eu cyflogi gan y Bwrdd ar unrhyw adeg cyn y dyddiad trosglwyddo ac nad yw eu cyflogaeth yn trosglwyddo i'r Comisiynydd nac i Lywodraeth Cynulliad Cymru o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn;
(d) “cofnodion” (“records”) yn cynnwys cofnodion ysgrifenedig a chofnodion sy'n cyfleu gwybodaeth drwy unrhyw ddull arall.
3 

(1) Ar y dyddiad trosglwyddo bydd personau A yn trosglwyddo i gael eu cyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
(2) Ar y dyddiad trosglwyddo bydd personau B yn trosglwyddo i gael eu cyflogi gan y Comisiynydd.
4 

(1) Ar y dyddiad trosglwyddo caiff yr eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau a bennir yn yr Atodlen ac yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i erthygl 5, ar y dyddiad trosglwyddo caiff pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw, eu trosglwyddo i'r Comisiynydd.
5 

(1) Ar y dyddiad trosglwyddo caiff yr hawliau a'r rhwymedigaethau o dan gontractau cyflogaeth personau C neu mewn cysylltiad â'r contractau hynny ac yr oedd gan y Bwrdd hawlogaeth iddynt neu yr oedd y Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
(2) Mae unrhyw beth sy'n cael ei wneud cyn y dyddiad trosglwyddo gan y Bwrdd neu mewn perthynas â'r Bwrdd o ran unrhyw berson C neu ei gontract cyflogaeth i'w drin o'r dyddiad hwnnw fel pe byddai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy.
6 

(1) Pan fo cofnodion yr oedd y Bwrdd yn berchen arnynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo wedi eu trosglwyddo i'r Comisiynydd o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol—
(a) edrych ar y cofnodion hynny; a
(b) cymryd copïau o'r cofnodion hynny neu unrhyw ran ohonynt, neu caniateir i'r copïau neu'r rhannau hynny gael eu darparu iddynt.
(2) Nid yw pŵer Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1) yn gymwys i gofnodion sy'n ymwneud â chyflogaeth personau B.
(3) Pan fo cofnodion yr oedd y Bwrdd yn berchen arnynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol—
(a) edrych ar y cofnodion hynny; a
(b) cymryd copïau o'r cofnodion hynny neu unrhyw ran ohonynt, neu caniateir i'r copïau neu'r rhannau hynny gael eu darparu iddo.
(4) Nid yw pŵer y Comisiynydd o dan baragraff (3) yn gymwys i gofnodion sy'n ymwneud â chyflogaeth personau A neu C.
(5) Rhaid i'r pwerau a roddwyd gan yr erthygl hon gael eu harfer yn ystod oriau gwaith arferol.
7 
Nid effeithir ar drosglwyddiadau o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, y rhoddir effaith iddynt gan y Gorchymyn hwn, gan unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag y bo) a fyddai fel arall yn atal y trosglwyddiadau hynny neu'n cyfyngu arnynt.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2012
YR ATODLEN
Erthygl 4
RHAN 1
1 

(a) Y gadair Enigma S21 sy'n dwyn y rhif model E760MF a'r rhif cyfresol 101562;
(b) eiddo sy'n ymwneud yn unig â phrosiect Bwrdd perthnasol; ac
(c) pob cofnod ac eithrio cofnodion sy'n ymwneud yn unig â—
(i) cytundebau grant a gytunwyd rhwng y Bwrdd a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru;
(ii) cytundebau grant a gytunwyd rhwng y Bwrdd a Phrifysgol Bangor;
(iii) cyflogi personau B gan y Bwrdd;
(iv) gwaith ymchwil a chasglu data a wnaed, neu a gomisiynwyd, gan y Bwrdd mewn cysylltiad â'r defnydd o'r Gymraeg;
(v) prosiectau canlynol y Bwrdd—(aa) 'Cymraeg yn y gweithle';(bb) 'Iaith Gwaith';(cc) 'Mae gen ti ddewis';(dd) 'Enwau Lleoedd';(ee) 'Estyn Llaw';(ff) safoni terminoleg yn y Gymraeg;(gg) datblygu a hybu'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg (gan gynnwys geiriaduron ar-lein);(hh) cydlynu a rheoleiddio'r ddarpariaeth o wasanaethau cyfieithu;
(vi) gwaith a wnaed gan y Bwrdd i hybu manteision defnyddio'r Gymraeg ymysg y sector gwirfoddol a busnesau;
(vii) cynlluniau iaith Gymraeg perthnasol;
(viii) gwaith a wnaed gan y Bwrdd gan ddisgwyl y câi swydd y Comisiynydd ei sefydlu; a
(ix) ceisiadau am wybodaeth ynghylch unrhyw un neu rai o'r materion a ddisgrifir ym Mharagraffau (i) i (viii), uchod, sy'n geisiadau y mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gymwys iddynt.
2 
Yn y Rhan hon—
 mae i “cais am wybodaeth” yr un ystyr ag a briodolir i “request for information” yn adran 8 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
 ystyr “cynllun addysg Gymraeg” (“Welsh education scheme”) yw unrhyw gynllun a baratowyd neu a fabwysiadwyd yn unol â Rhan 2 2 o Ddeddf 1993 ac sy'n ymwneud yn unig â darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg;
 ystyr “cynllun iaith Gymraeg perthnasol” (“relevant Welsh language scheme”) yw unrhyw gynllun a baratowyd neu a fabwysiadwyd yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 1993 nad yw'n gynllun addysg Gymraeg; a
 ystyr “prosiect Bwrdd perthnasol” (“relevant Board project”) yw—
(a) “Twf”;
(b) “Mae dy Gymraeg di'n grêt”;
(c) “Defnydd Cymdeithasol o'r Gymraeg gan bobl ifanc”;
(d) “Cefnogi partneriaid cymunedol y Bwrdd”;
(e) “Cefnogi'r Gymraeg mewn cymunedau sydd angen cymorth”; ac
(f) Cerddoriaeth Gymraeg Gymunedol.
RHAN 2
3 
Hawliau a rhwymedigaethau sy'n codi mewn cysylltiad ag—
(a) unrhyw eiddo sy'n trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Gorchymyn hwn;
(b) unrhyw brosiect Bwrdd perthnasol; ac
(c) unrhyw gytundeb grant perthnasol.
4 
Yn y Rhan hon—
 mae i “prosiect Bwrdd perthnasol” (“relevant Board project”) yr un ystyr ag yn Rhan 1; ac
 ystyr “cytundeb grant perthnasol” (“relevant grant agreement”) yw unrhyw gytundeb grant sydd wedi cael ei gytuno gan y Bwrdd er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac nad yw'n disgyn o fewn unrhyw un neu rai o'r categorïau canlynol o gytundeb—
(a) cytundebau sy'n ymwneud yn unig â phrosiect 'Estyn Llaw';
(b) cytundebau â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru;
(c) cytundebau â Phrifysgol Bangor.