
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Partneriaeth Cymru (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2012.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Byrddau Iechyd Lleol” (“Local Health Boards”) yw'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
 ystyr “Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Trusts”) yw'r Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
3 
Mae Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi eu pennu'n awdurdodau lleol at ddibenion adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2012